Toglo gwelededd dewislen symudol

Hyfforddiant Arwain yn Ddiogel IOSH (1 Diwrnod)

Budd i'r Sefydliad

Beth gaiff y busnes?

  • Tawelwch meddwl, yn gwybod bod eich staff wedi cael hyfforddiant adnewyddu a'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch ac iechyd
  • Ychydig iawn o amser segur - gellir cyflwyno'r rhaglen mewn ffordd hyblyg fel ei bod yn gweddu i'ch busnes
  • Dysgu effeithlon ac effeithiol - mae deunyddiau'r cwrs wedi'u peilota er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio yn y byd go iawn
  • Hyfforddiant i'ch rheolwyr a'ch goruchwylwyr sy'n rhoi tystysgrif, sy'n cael ei barchu a'i gydnabod ar draws y byd

Pwy Ddylai Fynychu?

Mae'r cwrs undydd hwn ar gyfer cyfranogwyr sydd eisoes wedi cwblhau'r cwrs llawn ar Reoli'n Ddiogel, sydd am ailgymhwyso eu tystysgrif ac sydd am adnewyddu eu gwybodaeth o brif elfennau'r cwrs llawn ar Reoli'n Ddiogel drwy ystyried sut maent yn berthnasol i system rheoli diogelwch ac iechyd cynlluniogwneud-gwirio-gweithredu, sy'n rhoi lle canolog i arweinyddiaeth.

Amcanion Dysgu

Mae'r cwrs hwn wedi'i lunio i adnewyddu gwybodaeth pobl sydd wedi mynychu Rheoli'n Ddiogel IOSH yn y tair blynedd diwethaf.

Cynnwys y Cwrs

  • Adnewyddu'r wybodaeth a ddysgwyd yn ystod Rheoli'n Ddiogel IOSH
  • Adolygu'r newidiadau i ddeddfwriaeth a'r effaith ar eich sefydliad
  • Pynciau allweddol yng nghwrs adnewyddu Rheoli'n Ddiogel IOSH
  • Manylu ble bu newidiadau perthnasol o ran arferion da, arweiniad a deddfwriaeth yn y tair blynedd diwethaf
  • Adolygu'r prif gyfrifoldebau rheoli yn y cwrs Rheoli'n Ddiogel.

Hyd

Dysgu Rhithiol

Dyddiadau a Phrisiau'r Cwrs

Cysylltwch â leadership@powys.gov.uk

Gwybodaeth Arall

Caiff cyfranogwyr llwyddiannus Dystysgrif Adnewyddu Rheoli'n Ddiogel IOSH. Cyfnod Adnewyddu

3 Blynedd (Cwrs Adnewyddu 1 Diwrnod)

Trefnu Lle

Gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio Hunan Wasanaeth iTrent i gadw lle ar y cwrs hwn.  Ar gyfer holl ymgeiswyr eraill, cofrestrwch eich diddordeb trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma​​​​​​​