Hyfforddiant Straen, Cadernid a Lles
Budd i'r Sefydliad
Mae Cyngor Sir Powys yn buddsoddi mewn nifer o raglenni llesiant ac mae wedi datblygu'r cwrs yma i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth staff am straen er mwyn eu helpu i ddatblygu ffordd i wrthsefyll straen.
Pwy Ddylai Fynychu?
Bydd y rhain ar gyfer unrhyw unigolyn sydd am gael gwell dealltwriaeth o straen trwy edrych ar ystod o dechnegau sydd wedi'u dylunio i'w helpu i adnabod a rheoli straen yn eu hunain ac eraill ac i ddatblygu ffordd i wrthsefyll y pwysau'n well yn y dyfodol.
Amcanion Dysgu
- Cynyddu ymwybyddiaeth o effaith straen ar y corff os nad yw'n cael ei reoli
- Adnabod goblygiadau ariannol straen sy'n gysylltiedig ag absenoldeb salwch
- Ymarfer technegau i helpu ymdopi â straen a gwella llesiant a ffyrdd i wrthsefyll y pwysau
Cynnwys y Cwrs
- Deall beth sy'n achosi straen
- Deall y gwahaniaeth rhwng pwysau a straen
- Adnabod y sbardunau
- Edrych ar ystod o dechnegau i helpu gwella llesiant yr unigolyn ac i ddatblygu ffyrdd i wrthsefyll straen
Hyd
1 Diwrnod
Dyddiadau a Phrisiau'r Cwrs
Cysylltwch â leadership@powys.gov.uk
Trefnu Lle
Cysylltwch â leadership@powys.gov.uk