Os oes gennych gwyn i'w gwneud am ddiogelwch bwyd, cysylltwch â'n tîm. Byddwn yn ceisio darganfod mwy am y gwyn ac yn gallu dweud wrthych pa gamau gweithredu a gymerwn ar eich rhan.
Pethau y byddwn yn ymchwilio iddyn nhw
Gallwn archwilio i achosion sy'n ymwneud â:
bwyd nad yw'n ddigon da i'w fwyta
eitemau dieithr mewn bwyd
Os byddwch yn gweld bod problem gyda chynnyrch bwyd, gwnewch yn siwr eich bod yn cadw'r holl fwyd a deunydd pecynnu, peidiwch â chyffwrdd â'r cynnyrch fwy na sydd raid a chysylltwch â ni cyn gynted ag y gallwch.
Gallwn hefyd ymchwilio i gwynion am arferion neu safonau anhylan mewn safleoedd bwyd, felly rhowch wybod am unrhyw safonau hylendid gwael a welsoch mewn mannau gwerthu bwyd, neu unrhyw wenwyn bwyd y credwch ei fod wedi'i achosi gan fwyd o dy bwyta neu le gwerthu bwyd.
Gallwch hefyd roi gwybod am arferion anghyfreithlon eraill, er enghraifft lladd anifeiliaid am fwyd yn anghyfreithlon.