Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cwyno ynghylch bwyd sy'n anniogel

Os oes gennych gwyn i'w gwneud am ddiogelwch bwyd, cysylltwch â'n tîm. Byddwn yn ceisio darganfod mwy am y gwyn ac yn gallu dweud wrthych pa gamau gweithredu a gymerwn ar eich rhan.
Image of some tomatoes

Pethau y byddwn yn ymchwilio iddyn nhw

Gallwn archwilio i achosion sy'n ymwneud â:

  • bwyd nad yw'n ddigon da i'w fwyta
  • eitemau dieithr mewn bwyd

Os byddwch yn gweld bod problem gyda chynnyrch bwyd, gwnewch yn siwr eich bod yn cadw'r holl fwyd a deunydd pecynnu, peidiwch â chyffwrdd â'r cynnyrch fwy na sydd raid a chysylltwch â ni cyn gynted ag y gallwch.

Gallwn hefyd ymchwilio i gwynion am arferion neu safonau anhylan mewn safleoedd bwyd, felly rhowch wybod am unrhyw safonau hylendid gwael a welsoch mewn mannau gwerthu bwyd, neu unrhyw wenwyn bwyd y credwch ei fod wedi'i achosi gan fwyd o dy bwyta neu le gwerthu bwyd.

Gallwch hefyd roi gwybod am arferion anghyfreithlon eraill, er enghraifft lladd anifeiliaid am fwyd yn anghyfreithlon.

Rhoi gwybod am fwyd anniogel Rhoi gwybod am fwyd anniogel

Cyswllt

  • Ebost: public.protection@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 827467
  • Cyfeiriad: 
    • Sir Brycheiniog, Neuadd Brycheiniog, Cambrian Way, Aberhonddu, LD3 7HR
    • Sir Drefaldwyn, Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, SY21 7PH
    • Sir Faesyfed, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.

Eich sylwadau am ein tudalennau