Dadansoddi Peryglon a Rheolbwyntiau Critigol (HACCP)
Eich cyfrifoldebau chi
Dan Reoliad yr UE (Rhif) 852/2004 mae gofyn i chi adnabod peryglon posibl mewn perthynas â bwyd, penderfynu pa rai o'r peryglon yma sydd angen eu rheoli er mwyn sicrhau bod y bwyd yn iach, rhoi mesurau rheoli effeithiol ar waith a monitro'r gweithdrefnau i atal y peryglon hyn rhag achosi niwed i ddefnyddwyr, a chadw cofnod ysgrifenedig o'ch monitro. Bydd angen i chi adolygu'r gweithdrefnau'n rheolaidd.
Perchennog y busnes sy'n gyfrifol am ddatblygu system HACCP. Dylai staff eraill y busnes fod yn rhan o'r gwaith, gan y bydd yn rhaid i'r holl staff helpu i sicrhau bod y bwyd yn ddiogel.
Dadansoddi Peryglon a Rheolbwyntiau Critigol (HACCP)
Un o'r systemau sy'n cael ei defnyddio gan fusnesau bwyd boed bach neu fawr, i sicrhau bod bwyd yn ddiogel yw'r un a elwir yn Dadansoddi Peryglon a Rheolbwynt Critigol (HACCP). Cymerir cyfres o gamau rhesymegol yn y system yma (gweler y siart ar y dde).
Bydd edrych ar eich ffordd o weithio a'r arferion sydd gennych ar waith yn eich helpu i wybod beth sy'n gallu mynd o'i le a beth allai niweidio eich cwsmeriaid. Mae gwybod beth allai fynd o'i le yn eich helpu i gymryd mesurau effeithiol i osgoi'r problemau hyn. Mae gwirio bod yr hyn sydd i fod i ddigwydd yn digwydd mewn gwirionedd, a chadw cofnodion o hyn yn arfer da. Byddai hyn yn sicrhau eich bod wedi cymryd pob gofal pe byddai angen i chi amddiffyn eich hun unrhyw dro.
Rhagor o wybodaeth
Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd becyn 'Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell' sydd ar gael i'w lawrlwytho.
Gweithdrefn HACCP
- PEenderfynwch pwy fydd yn datblygu'r system HACCP
- Lluniwch siart llif o'r hyn rydych chi'n ei wneud
- Nodwch pan all peryglon i ddiogelwch bwydd ddigwydd
- Penderfynwch pa gamau sy'n bwyntiau critigol a pha rai sy'n arfer da
- Gosod safonau (cyfyngiadau critigol ar gyfer y rheolbwyntiau
- Penderfynwch pwy fydd yn datblygu'r system HACCP
- Nodwch beth yw'r gweithdrefnau monitro (gwiriadau) ar gyfer rheolbwyntiau critigol
- Nodwch y camau unioni sy'n cael eu cymryd pan fydd y monitro'n dangos nad yw'r rheolbwyntiau'n digwydd
- Rhoi system HACCP ar waith a sicrhau ei bod yn gweithio'n effeithiol
- Adolygu'r system HACCP
- Cadw'r holl ddogfennaeth a'r cofnodion
Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau