Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth yw Salmonella?

Mae Salmonella yn ffurf adnabyddus iawn ar wenwyn bwyd. Cysylltir y salwch â bwyta cynhyrchion dofednod sydd wedi'u heintio.
Image of an egg

Sut ges i'r salwch?

Fel arfer, mae Salmonella'n cael ei ddal fel hyn:

  • trin cig amrwd yn enwedig dofednod
  • bwyta cig neu gynhyrchion dofednod neu wyau sydd heb ei goginio'n ddigonol, neu gynhyrchion bwyd eraill sydd wedi'u halogi
  • yfed llaeth neu fwyta cynhyrchion llaeth heb eu trin
  • cyswllt uniongyrchol ag anifeiliaid
  • cyswllt agos â rhywun arall sydd wedi'i heintio

Pryd ges i'r salwch?

Mae'r salwch yn digwydd o fewn 6 - 72 awr i chi dderbyn yr haint.

Beth yw'r arwyddion a'r symptomau?

  • gwres, heb fod yn teimlo'n dda, poen yn y bol
  • cur pen, teimlo'n gyfoglyd, dolur rhydd a chyfogi.

Mae'r symptomau'n para am nifer o ddyddiau fel rheol. Gall salmonellosis fod yn fwy difrifol i blant bach, yr henoed, neu bob sydd eisoes yn sâl, a gallai fod angen iddynt fynd i'r ysbyty.

Sut alla' i atal y salwch rhag lledaenu?

  • Golchi'r dwylo'n drylwyr ar ôl defnyddio'r toiled a chyn paratoi prydau neu fwyta
  • Dylech olchi dwylo plant bach sy'n dioddef o'r haint, neu eu goruchwylio wrth iddyn nhw wneud hyn
  • Diheintiwch bobman yn y toiled  bob dydd (gan gynnwys dolenni'r drysau) 
  • Dylai pobl sydd wedi'u heintio aros i ffwrdd o'r gwaith tan iddynt fod yn rhydd o symptomau dolur rhydd a chwydu am o leiaf 48 awr
  • Os yw'r person sydd wedi'i heintio mewn gr?p risg uchel e.e. yn trin bwyd, yn gweithio mewn meithrinfa, yn nyrs neu'n gofalu am yr henoed ac ati, ni allant ddychwelyd i'r gwaith tan iddynt wella'n llwyr am 48 awr.   Ar adegau bydd angen sicrhau canlyniadau negyddol i samplau o garthion.  Hefyd, mae'n bosibl y bydd angen gwahardd rhai plant heintiedig o grwpiau chwarae, meithrinfeydd, gofalwyr plant neu ysgolion.   Bydd swyddog o'r adran yn rhoi gwybod i chi os bydd angen gwahardd a phryd y gallwch ailddechrau gweithgareddau

Ble alla' i gael rhagor o gyngor?

Os ydych yn rhoi gwybod am eich haint, bydd swyddog archwilio'r cyngor yn rhoi taflen fwy cyffredinol i chi ynglyn â rheoli heintiau.

 

Cyswllt

  • Ebost: public.protection@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 827467
  • Cyfeiriad: 
    • Sir Brycheiniog, Neuadd Brycheiniog, Cambrian Way, Aberhonddu, LD3 7HR
    • Sir Drefaldwyn, Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, SY21 7PH
    • Sir Faesyfed, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.

Eich sylwadau am ein tudalennau