Mae Salmonella yn ffurf adnabyddus iawn ar wenwyn bwyd. Cysylltir y salwch â bwyta cynhyrchion dofednod sydd wedi'u heintio.
Sut ges i'r salwch?
Fel arfer, mae Salmonella'n cael ei ddal fel hyn:
trin cig amrwd yn enwedig dofednod
bwyta cig neu gynhyrchion dofednod neu wyau sydd heb ei goginio'n ddigonol, neu gynhyrchion bwyd eraill sydd wedi'u halogi
yfed llaeth neu fwyta cynhyrchion llaeth heb eu trin
cyswllt uniongyrchol ag anifeiliaid
cyswllt agos â rhywun arall sydd wedi'i heintio
Pryd ges i'r salwch?
Mae'r salwch yn digwydd o fewn 6 - 72 awr i chi dderbyn yr haint.
Beth yw'r arwyddion a'r symptomau?
gwres, heb fod yn teimlo'n dda, poen yn y bol
cur pen, teimlo'n gyfoglyd, dolur rhydd a chyfogi.
Mae'r symptomau'n para am nifer o ddyddiau fel rheol. Gall salmonellosis fod yn fwy difrifol i blant bach, yr henoed, neu bob sydd eisoes yn sâl, a gallai fod angen iddynt fynd i'r ysbyty.
Sut alla' i atal y salwch rhag lledaenu?
Golchi'r dwylo'n drylwyr ar ôl defnyddio'r toiled a chyn paratoi prydau neu fwyta
Dylech olchi dwylo plant bach sy'n dioddef o'r haint, neu eu goruchwylio wrth iddyn nhw wneud hyn
Diheintiwch bobman yn y toiled bob dydd (gan gynnwys dolenni'r drysau)
Dylai pobl sydd wedi'u heintio aros i ffwrdd o'r gwaith tan iddynt fod yn rhydd o symptomau dolur rhydd a chwydu am o leiaf 48 awr
Os yw'r person sydd wedi'i heintio mewn gr?p risg uchel e.e. yn trin bwyd, yn gweithio mewn meithrinfa, yn nyrs neu'n gofalu am yr henoed ac ati, ni allant ddychwelyd i'r gwaith tan iddynt wella'n llwyr am 48 awr. Ar adegau bydd angen sicrhau canlyniadau negyddol i samplau o garthion. Hefyd, mae'n bosibl y bydd angen gwahardd rhai plant heintiedig o grwpiau chwarae, meithrinfeydd, gofalwyr plant neu ysgolion. Bydd swyddog o'r adran yn rhoi gwybod i chi os bydd angen gwahardd a phryd y gallwch ailddechrau gweithgareddau
Ble alla' i gael rhagor o gyngor?
Os ydych yn rhoi gwybod am eich haint, bydd swyddog archwilio'r cyngor yn rhoi taflen fwy cyffredinol i chi ynglyn â rheoli heintiau.