Toglo gwelededd dewislen symudol

Hepatitis A

Haint firysol ar yr afuyw Hepatitis A. Mae'n gallu achosi'r clefyd melyn ac mae'n heintus dros ben.
Image of some pills

Sut ges i'r salwch?

Fel arfer bydd Hepatitis A yn cael ei ddal trwy:

  • fwyd neu ddwr sydd wedi'i halogi
  • cyswllt agos â rhywun arall sydd â'r haint
  • rhannu bwyd gyda rhywun arall sydd â'r haint
  • nofio mewn dwr sydd wedi'i halogi

Pryd ges i'r salwch?

Fel arfer, bydd y salwch yn digwydd o fewn 15-40 diwrnod i'r heintio, ac ar ei mwyaf heintus am bythefnos cyn i'r symptomau ddechrau ac am hyd at 7 diwrnod ar ôl i'r clefyd melyn ymddangos.

Beth yw'r arwyddion a'r symptomau?

  • troeth (wrin) tywyll - disgrifir ef yn aml fel 'lliw te'
  • poen yn y bol
  • dim chwant bwyd
  • ôl clefyd melyn ar y croen a'r llygaid
  • cosi

Sut ydw i'n atal y salwch rhag lledaenu?

  • Golchi'r dwylo ar ôl bod yn y ty bach, ar ôl newid clytiau'r babi a chyn paratoi prydau neu fwyta
  • Dylech olchi dwylo plant bach â'r haint, neu eu goruchwylio'n gwneud hynny
  • Golchi'r holl lestri'n drwyadl rhwng prydau
  • Diheintio pob rhan o ardal y toiled bob dydd (gan gynnwys dolennu'r drws)
  • Dylai pobl sydd wedi'u heintio aros i ffwrdd o'r gwaith tan iddynt fod yn rhydd o symptomau dolur rhydd a chwydu am o leiaf 48 awr
  • Os yw'r person sydd wedi'i heintio mewn gr?p risg uchel e.e. yn trin bwyd, yn gweithio mewn meithrinfa, yn nyrs neu'n gofalu am yr henoed ac ati, ni allant ddychwelyd i'r gwaith tan iddynt wella'n llwyr am 48 awr.   Ar adegau bydd angen sicrhau canlyniadau negyddol i samplau o garthion.  Hefyd, mae'n bosibl y bydd angen gwahardd rhai plant heintiedig o grwpiau chwarae, meithrinfeydd, gofalwyr plant neu ysgolion.   Bydd swyddog o'r adran yn rhoi gwybod i chi os bydd angen gwahardd a phryd y gallwch ailddechrau gweithgareddau

Ble alla' i gael rhagor o gyngor?

  • Bydd eich Meddyg Teulu'n gallu rhoi cyngor i chi ynglyn â thriniaeth.
  • Dylech roi gwybod i'ch gweithle, neu yn achos plant, pennaeth yr ysgol, er mwyn darganfod a oes angen eu cadw gartref a phryd fyddant yn gallu dychwelyd.

Os ydych yn rhoi gwybod am eich haint, bydd swyddog archwilio'r cyngor yn rhoi taflen fwy cyffredinol i chi ynglyn â rheoli heintiau.

 

Cyswllt

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.

Eich sylwadau am ein tudalennau