Toglo gwelededd dewislen symudol

E.coli O157

Gwenwyn bwyd sy'n cael ei achosi gan fath cryf o facteria Escherichia coli yw E.coli O157. Mae'n achosi dolur rhydd.
Image of washing hands

Sut ges i'r salwch?

Fel arfer, bydd E.coli O157 yn cael ei ledaenu trwy:

  • drin cig amrwd, yn enwedig cig eidion
  • bwyta cigoedd neu ddofednod heb eu coginio'n ddigonol, neu gynhyrchion bwyd eraill wedi'u halogi
  • bwyta neu yfed llaeth neu gynhyrchion llaeth heb eu trin.
  • nofio mewn dwr neu yfed dwr heb ei glorineiddio
  • cyswllt ag anifeiliaid, yn enwedig ar fferm neu mewn lloches anifeiliaid
  • cyswllt agos â rhywun arall sydd wedi'i heintio

Pryd ges i'r salwch?

Gall y salwch ddigwydd o fewn 3-8 diwrnod i'r haint, ond fel arfer, mae'n digwydd o fewn 3-4 diwrnod.

Beth yw'r arwyddion a'r symptomau?

  • Dolur rhydd (weithiau gyda gwaed)
  • Cur pen, teimlo'n gyfoglyd a chyfogi.

Fel arfer bydd y symptomau'n para am ryw wythnos. Yn achos plant bach, yr henoed, neu bobl sydd eisoes yn sâl, gall E.coli O157 fod yn waeth, ac mae perygl o gymhlethdodau fel methiant yr arennau, felly os ydych yn un o'r grwpiau hyn, dylech fynd at eich meddyg bob amser.

Sut ydw i'n atal y salwch rhag lledaenu?

  • Golchi'r dwylo'n drwyadl ar ôl mynd i'r toiled a chyn paratoi prydau neu fwyta.
  • Dylech olchi dwylo plant bach sydd wedi'u heintio, neu eu goruchwylio'n gwneud hynny.
  • Diheintio pob rhan o'r toiled bob dydd (gan gynnwys dolen y drws). 
  • Dylai pobl sydd wedi'u heintio aros i ffwrdd o'r gwaith tan iddynt fod yn rhydd o symptomau dolur rhydd a chwydu am o leiaf 48 awr
  • Os yw'r person sydd wedi'i heintio mewn gr?p risg uchel e.e. yn trin bwyd, yn gweithio mewn meithrinfa, yn nyrs neu'n gofalu am yr henoed ac ati, ni allant ddychwelyd i'r gwaith tan iddynt wella'n llwyr am 48 awr.   Ar adegau bydd angen sicrhau canlyniadau negyddol i samplau o garthion.  Hefyd, mae'n bosibl y bydd angen gwahardd rhai plant heintiedig o grwpiau chwarae, meithrinfeydd, gofalwyr plant neu ysgolion.   Bydd swyddog o'r adran yn rhoi gwybod i chi os bydd angen gwahardd a phryd y gallwch ailddechrau gweithgareddau

Ble alla' i gael rhagor o gyngor?

  • Bydd eich Meddyg Teulu yn gallu rhoi cyngor i chi ynglyn â thrin y salwch.
  • Dylech ddweud wrth eich gweithle, neu yn achos plant bach, pennaeth yr ysgol, i ddarganfod a oes angen cadw'r plentyn o'r ysgol,  a phryd y bydd yn gallu dychwelyd.
  • Os ydych yn rhoi gwybod am eich haint, bydd swyddog archwilio'r cyngor yn rhoi taflen gyffredinol i chi ar sut i reoli haint.

Cyswllt

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.

Eich sylwadau am ein tudalennau