Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cryptosporidiwm

Haint parasitig y coluddyn yw cryptosporidiwm. Mae'n achosi dolur rhydd, cyfogi a phoen yn y bol. Mae'n effeithio ar blant yn  bennaf, er ei fod yn bosibl hefyd i oedolion gael yr haint.
Image of a lamb

Sut ges i'r salwch?

Trwy un o'r canlynol:

  • cyswllt uniongyrchol ag anifeiliaid fferm a'u gwâl, yn enwedig gwartheg a defaid. Weithiau ceir nifer o achosion mewn un tymor, yn gysylltiedig ag ymweld â ffermydd i fwydo a thrafod wyn bach. Gall rhai anifeiliaid anwes drosglwyddo cryptosporidiwm felly mae'n rhaid bod yn ofalus dros ben wrth drafod yr anifeiliaid a'u baw.
  • yfed llaeth heb ei drin neu ddwr o gyflenwad sydd wedi'i heintio.
  • cyswllt agos â rhywun arall sydd â'r haint.
  • cyswllt â dwr pwll nofio sydd wedi'i heintio.

Pryd ges i'r salwch?

Fel arfer, mae'r salwch yn ymddangos rhyw 2-5 diwrnod ar ôl heintio, ond gall fod hyd at 10 diwrnod cyn i'r symptomau ymddangos.

Beth yw'r arwyddion a'r symptomau?

  • Dolur rhydd
  • Gwres
  • Poen yn y bol
  • Cyfogi

Sut ydw i'n atal y salwch rhag lledaenu?

  • Golchi'r dwylo'n drwyadl ar ôl defnyddio'r toiled a chyn paratoi bwyd neu fwyta
  • Golchi'r dwylo ar ôl trin a bwydo anifeiliaid, gan gynnwys anifeiliaid anwes
  • Dylech olchi dwylo plant bach sydd wedi dal yr haint, neu eu goruchwylio tra byddant yn gwneud hynny eu hunain
  • Diheintio pob rhan o'r toiled bob dydd (gan gynnwys dolenni'r drysau)
  • Dylai pobl sydd wedi'u heintio aros i ffwrdd o'r gwaith tan iddynt fod yn rhydd o symptomau dolur rhydd a chwydu am o leiaf 48 awr. Dylid hefyd osgoi defnyddio pyllau nofio neu rannu bath am bythefnos ar ôl y carthion normal cyntaf
  • Os yw'r person sydd wedi'i heintio mewn gr?p risg uchel e.e. yn trin bwyd, yn gweithio mewn meithrinfa, yn nyrs neu'n gofalu am yr henoed ac ati, ni allant ddychwelyd i'r gwaith tan iddynt wella'n llwyr am 48 awr.   Ar adegau bydd angen sicrhau canlyniadau negyddol i samplau o garthion.  Hefyd, mae'n bosibl y bydd angen gwahardd rhai plant heintiedig o grwpiau chwarae, meithrinfeydd, gofalwyr plant neu ysgolion.   Bydd swyddog o'r adran yn rhoi gwybod i chi os bydd angen gwahardd a phryd y gallwch ailddechrau gweithgareddau

Ble alla' i gael rhagor o gyngor?

  • Bydd eich Meddyg Teulu'n gallu rhoi cyngor i chi ar sut i drin y salwch.
  • Dylech ddweud wrth eich gweithle, neu yn achos plentyn, pennaeth ei ysgol i ddarganfod a oes angen aros gartref o'r ysgol a phryd y gallwch ddychwelyd.

Os rhowch wybod am eich haint, bydd swyddog archwilio'r cyngor yn rhoi taflen fwy cyffredinol i chi sy'n esbonio sut i reoli'r haint.

Cyswllt

  • Ebost: public.protection@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 827467
  • Cyfeiriad: 
    • Sir Brycheiniog, Neuadd Brycheiniog, Cambrian Way, Aberhonddu, LD3 7HR
    • Sir Drefaldwyn, Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, SY21 7PH
    • Sir Faesyfed, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.

Eich sylwadau am ein tudalennau