Math cyffredin iawn o gastro-enteritis yw campylobacter. Mae'n fwy cyffredin na salmonella ac yn un o'r afiechydon y bydd pobl yn eu dal amlaf wrth deithio.
Sut ges i'r salwch?
Mae campylobacter yn cael ei ddal fel arfer trwy:
drin cig amrwd, yn enwedig dofednod
yfed dwr neu laeth heb ei drin
bwyta cigoedd neu ddofednod heb eu coginio'n ddigonol
cyswllt uniongyrchol ag anifeiliaid
cyswllt agos â rhywun arall sydd wedi'i heintio
adar yn pigo tyllau yng nghaeadau poteli llaeth
Pryd ges i'r salwch?
Fel rheol, bydd y salwch yn digwydd rhyw 2-10 diwrnod wedi i chi gael eich heintio, ond gallai cymaint â 14 diwrnod fynd heibio cyn i'r symptomau ymddangos.
Beth yw'r arwyddion a'r symptomau?
gwres a/neu deimlo'n gyffredinol sâl
poen yn y bol
dolur rhydd ar ôl rhyw 2-3 diwrnod (gallai hyn weithiau gynnwys gwaed a llysnafedd). Mae hyn yn para tua 2-3 diwrnod.
Gallai pyliau o boen yn y bol fel colig bara am 10-14 diwrnod pellach.
Ni fydd oedolion yn tueddu i gyfogi, ond gall ddigwydd yn amlach mewn plant.
Sut ydw i'n atal y salwch rhag lledaenu?
Golchi'r dwylo'n drwyadl ar ôl defnyddio'r toiled a chyn paratoi bwyd neu fwyta
Dylech olchi dwylo plant bach sydd wedi dal yr haint, neu eu goruchwylio tra byddant yn gwneud hynny eu hunain
Diheintio pob rhan o'r toiled bob dydd (gan gynnwys dolenni'r drysau)
Dylai pobl sydd wedi'u heintio aros i ffwrdd o'r gwaith tan iddynt fod yn rhydd o symptomau dolur rhydd a chwydu am o leiaf 48 awr
Os yw'r person sydd wedi'i heintio mewn gr?p risg uchel e.e. yn trin bwyd, yn gweithio mewn meithrinfa, yn nyrs neu'n gofalu am yr henoed ac ati, ni allant ddychwelyd i'r gwaith tan iddynt wella'n llwyr am 48 awr. Ar adegau bydd angen sicrhau canlyniadau negyddol i samplau o garthion. Hefyd, mae'n bosibl y bydd angen gwahardd rhai plant heintiedig o grwpiau chwarae, meithrinfeydd, gofalwyr plant neu ysgolion. Bydd swyddog o'r adran yn rhoi gwybod i chi os bydd angen gwahardd a phryd y gallwch ailddechrau gweithgareddau
Ble alla' i gael rhagor o gyngor?
Bydd eich Meddyg Teulu'n gallu rhoi cyngor i chi ar sut i drin y salwch.
Dylech ddweud wrth eich gweithle, neu yn achos plentyn, pennaeth ei ysgol i ddarganfod a oes angen aros gartref o'r ysgol a phryd y gallwch ddychwelyd.
Os rhowch wybod am eich haint, bydd swyddog archwilio'r cyngor yn rhoi taflen fwy cyffredinol i chi sy'n esbonio sut i reoli'r haint