Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Campylobacter

Math cyffredin iawn o gastro-enteritis yw campylobacter. Mae'n fwy cyffredin na salmonella ac yn un o'r afiechydon y bydd pobl yn eu dal amlaf wrth deithio.
Image of a suitcase

Sut ges i'r salwch?

Mae campylobacter yn cael ei ddal fel arfer trwy:

  • drin cig amrwd, yn enwedig dofednod
  • yfed dwr neu laeth heb ei drin
  • bwyta cigoedd neu ddofednod heb eu coginio'n ddigonol
  • cyswllt uniongyrchol ag anifeiliaid
  • cyswllt agos â rhywun arall sydd wedi'i heintio
  • adar yn pigo tyllau yng nghaeadau poteli llaeth

Pryd ges i'r salwch?

Fel rheol, bydd y salwch yn digwydd rhyw 2-10 diwrnod wedi i chi gael eich heintio, ond gallai cymaint â 14 diwrnod fynd heibio cyn i'r symptomau ymddangos.

Beth yw'r arwyddion a'r symptomau?

  • gwres a/neu deimlo'n gyffredinol sâl
  • poen yn y bol
  • dolur rhydd ar ôl rhyw 2-3 diwrnod (gallai hyn weithiau gynnwys gwaed a llysnafedd). Mae hyn yn para tua 2-3 diwrnod.
  • Gallai pyliau o boen yn y bol fel colig bara am 10-14 diwrnod pellach.
  • Ni fydd oedolion yn tueddu i gyfogi, ond gall ddigwydd yn amlach mewn plant.

Sut ydw i'n atal y salwch rhag lledaenu?

  • Golchi'r dwylo'n drwyadl ar ôl defnyddio'r toiled a chyn paratoi bwyd neu fwyta
  • Dylech olchi dwylo plant bach sydd wedi dal yr haint, neu eu goruchwylio tra byddant yn gwneud hynny eu hunain
  • Diheintio pob rhan o'r toiled bob dydd (gan gynnwys dolenni'r drysau)
  • Dylai pobl sydd wedi'u heintio aros i ffwrdd o'r gwaith tan iddynt fod yn rhydd o symptomau dolur rhydd a chwydu am o leiaf 48 awr
  • Os yw'r person sydd wedi'i heintio mewn gr?p risg uchel e.e. yn trin bwyd, yn gweithio mewn meithrinfa, yn nyrs neu'n gofalu am yr henoed ac ati, ni allant ddychwelyd i'r gwaith tan iddynt wella'n llwyr am 48 awr.   Ar adegau bydd angen sicrhau canlyniadau negyddol i samplau o garthion.  Hefyd, mae'n bosibl y bydd angen gwahardd rhai plant heintiedig o grwpiau chwarae, meithrinfeydd, gofalwyr plant neu ysgolion.   Bydd swyddog o'r adran yn rhoi gwybod i chi os bydd angen gwahardd a phryd y gallwch ailddechrau gweithgareddau

Ble alla' i gael rhagor o gyngor?

    • Bydd eich Meddyg Teulu'n gallu rhoi cyngor i chi ar sut i drin y salwch.
    • Dylech ddweud wrth eich gweithle, neu yn achos plentyn, pennaeth ei ysgol i ddarganfod a oes angen aros gartref o'r ysgol a phryd y gallwch ddychwelyd.

Os rhowch wybod am eich haint, bydd swyddog archwilio'r cyngor yn rhoi taflen fwy cyffredinol i chi sy'n esbonio sut i reoli'r haint

 

Cyswllt

  • Ebost: public.protection@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 827467
  • Cyfeiriad: 
    • Sir Brycheiniog, Neuadd Brycheiniog, Cambrian Way, Aberhonddu, LD3 7HR
    • Sir Drefaldwyn, Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, SY21 7PH
    • Sir Faesyfed, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.

Eich sylwadau am ein tudalennau