Giardia Lamblia
Math o gastro-enteritis sy'n cael ei achosi gan baraseit protosoau yw Giardia Lamblia. Mae'n gallu byw yng ngholuddion pobl ac anifeiliaid.
Sut ges i'r salwch?
Fel arfer, bydd Giardia Lamblia yn cael ei ddal trwy:
- ddwr yfed wedi'i halogi
- cysylltiad agos gyda rhywun arall sydd wedi'i heintio.
- bwyta bwyd sydd wedi'i halogi
Pryd ges i'r salwch?
Mae'r salwch yn digwydd o fewn 5-10 diwrnod o ddal yr haint, ond gall fod hyd at 125 diwrnod nes i'r symptomau ymddangos.
Beth yw'r arwyddion a'r symptomau?
- Dolur rhydd - a allai bara wythnos neu ddwy
- Poen yn y bol
- Ymchwyddo
- Blinder
- Colli pwysau
Sut ydw i'n atal y salwch rhag lledaenu?
- Golchi'r dwylo'n drwyadl ar ôl defnyddio'r toiled a chyn paratoi bwyd neu fwyta
- Osgoi yfed o unrhyw gyflenwad dwr a allai gynnwys yr haint
- Dylech olchi dwylo plant bach sydd wedi dal yr haint, neu eu goruchwylio tra byddant yn gwneud hynny eu hunain
- Diheintio pob rhan o'r toiled bob dydd (gan gynnwys dolenni'r drysau)
- Dylai pobl sydd wedi'u heintio aros i ffwrdd o'r gwaith tan iddynt fod yn rhydd o symptomau dolur rhydd a chwydu am o leiaf 48 awr
- Os yw'r person sydd wedi'i heintio mewn gr?p risg uchel e.e. yn trin bwyd, yn gweithio mewn meithrinfa, yn nyrs neu'n gofalu am yr henoed ac ati, ni allant ddychwelyd i'r gwaith tan iddynt wella'n llwyr am 48 awr. Ar adegau bydd angen sicrhau canlyniadau negyddol i samplau o garthion. Hefyd, mae'n bosibl y bydd angen gwahardd rhai plant heintiedig o grwpiau chwarae, meithrinfeydd, gofalwyr plant neu ysgolion. Bydd swyddog o'r adran yn rhoi gwybod i chi os bydd angen gwahardd a phryd y gallwch ailddechrau gweithgareddau.
Ble alla' i gael rhagor o gyngor?
- Bydd eich Meddyg Teulu yn gallu rhoi cyngor i chi ar sut i drin y salwch.
- Dylech ddweud wrth eich gweithle, neu yn achos plant bach, pennaeth yr ysgol, i ddarganfod a oes angen cadw'r plentyn o'r ysgol, a phryd y bydd yn gallu dychwelyd.
Os ydych yn rhoi gwybod am eich haint, bydd swyddog archwilio'r cyngor yn rhoi taflen gyffredinol i chi ar sut i reoli haint.
Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau