Yr Amgylchedd a Niwsans - Tir Halogedig
Mae gan Bowys hanes sylweddol o safleoedd sydd o bosibl wedi'u halogi. Ymhlith yr enghreifftiau mae gweithfeydd nwy, chwareli a safleoedd tirlenwi.
Beth yw Tir Halogedig?
Diffinnir tir halogedig dan Ran 2A Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 fel:
""unrhyw dir a leolir o fewn ardal awdurdod lleol ac sy'n ymddangos iddo fel ei fod yn y fath gyflwr, oherwydd bod sylweddau o fewn, ar neu o dan y tir, sy'n
a) achosi niwed arwyddocaol neu lle bo posibilrwydd arwyddocaol o niwed o'r fath yn cael ei achosi; neu
b) lle bo llygru dyfroedd a reolir yn digwydd, neu'n debygol o gael ei achosi."
Beth mae Cyngor Sir Powys yn ei wneud am Dir Halogedig?
Yn unol â'r gyfraith, mae gofyn i awdurdodau lleol archwilio eu hardaloedd i ddynodi Tir Halogedig. Os caiff Tir Halogedig ei ganfod, rhaid i'r Cyngor gymryd camau i reoli'r peryglon a achosir gan yr halogiad. Yn y bôn, nod y ddeddfwriaeth yw dod o hyd i dir sydd wedi'i halogi er mwyn ei lanhau er budd y cyhoedd a'r amgylchedd ehangach.
Ym mis Ionawr 2017, cyhoeddodd Cyngor Sir Powys fersiwn diwygiedig o'i Strategaeth Archwilio sy'n ystyried y canllaw statudol diwygiedig ac yn nodi dull y cyngor o asesu Tir Halogedig.
Lawrlwythwch y Strategaeth Archwilio yma (PDF, 743 KB)
Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau