Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Pa fath o broblemau swn gall y Cyngor ddelio â hwy?

Mae gan Wasanaeth Iechyd yr Amgylchedd bwerau cyfreithiol i ddelio â phroblemau swn a gall ddelio gyda chwynion swn o:

  • Ffynonellau domestig e.e. cwn yn cyfarth, cerddoriaeth uchel, swn o waith atgyweirio ar y cartref
  • Ffynonellau diwydiannol e.e. gwyntyllau swnllyd, generaduron
  • Ffynonellau masnachol e.e. swn adloniant.
  • Safleoedd Adeiladu e.e. swn o waith adeiladu/dymchwel.
  • Synau penodol yn y stryd o gerbydau, peiriannau ac offer.
  • Larymau lladron sy'n seinio am fwy nag 20 munud neu sy'n seinio'n rheolaidd.

Ynghyd â delio gyda chwynion am swn, rydym hefyd yn gwneud llawer o waith atal i roi terfyn ar lygredd swn yn digwydd, gan gynnwys:

  • Asesu effaith swn o ddatblygiadau newydd dan y broses Gynllunio.
  • Ymgynghori ar geisiadau ac amrywiadau Deddf Trwyddedu 2003 i atal niwsans cyhoeddus.
  • Caniatâd o flaen llaw ar gyfer gwaith Adeiladu/Dymchwel.
  • Ymgyrchoedd addysgol e.e. Diwrnod Gweithredu yn Erbyn Swn.

A oes ffordd arall yn hytrach na gwneud cwyn am swn?

Mae problemau swn yn cael eu datrys orau mewn ffordd anffurfiol yn aml trwy gael sgwrs gyda'r cymydog dan sylw. Efallai na fydd eich cymydog yn ymwybodol eu bod yn achosi problem i chi. Os byddwch yn rhoi gwybod iddynt eich bod yn cael problem, rydych trwy hynny yn rhoi'r cyfle iddynt ddelio gyda'r swn heb orfod gwneud cwyn ffurfiol.

Efallai y bydd achlysuron lle nad ydych am sgwrsio yn uniongyrchol â chymydog. Os felly, gallwch wneud cwyn am niwsans swn i'r Cyngor.

Cyswllt

  • Ebost: public.protection@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 827467
  • Cyfeiriad: 
    • Sir Brycheiniog, Neuadd Brycheiniog, Cambrian Way, Aberhonddu, LD3 7HR
    • Sir Drefaldwyn, Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, SY21 7PH
    • Sir Faesyfed, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.

Eich sylwadau am ein tudalennau