Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sut ydw i'n gwneud cwyn am swn?

Gellir gwneud cwynion i Iechyd yr Amgylchedd fel a ganlyn:

  • ar-lein      
  • yn bersonol yn ein swyddfeydd
  • dros y ffôn
  • trwy lythyr
  • trwy e-bost

Dylai eich cwyn gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Eich enw a'ch cyfeiriad (lle bo hynny'n bosibl) a rhif ffôn yn ystod y dydd. 
  • Cyfeiriad (neu safle) lle mae'r niwsans yn dod ohono a'r math o niwsans.
  • Pryd a pha mor hir mae'r niwsans yn digwydd.
  • Sut mae'r niwsans yn effeithio arnoch chi (e.e. mwg o goelcerth yn eich rhwystro rhag eistedd yn eich gardd). 
  • Unrhyw beth yr ydych wedi'i wneud i geisio delio â'r broblem (e.e. siarad â'r unigolyn sy'n achosi'r niwsans).
  • Unrhyw wybodaeth ar fanylion landlord [os yn berthnasol].

Ni fyddwn yn dweud wrth unrhyw un pwy sydd wedi gwneud y gwyn.

 

Cyswllt

  • Ebost: public.protection@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 827467
  • Cyfeiriad: 
    • Sir Brycheiniog, Neuadd Brycheiniog, Cambrian Way, Aberhonddu, LD3 7HR
    • Sir Drefaldwyn, Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, SY21 7PH
    • Sir Faesyfed, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.

Eich sylwadau am ein tudalennau