Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth fydd y cyngor yn ei wneud am gwyn am swn?

Bydd swyddog y cyngor yn cysylltu â chi i drafod y broblem. Bydd y swyddog yn esbonio sut y bydd eich cwyn yn cael ei archwilio a'r dewisiadau a all fod ar gael i ddatrys y broblem.

Gall y swyddog ymweld â'ch eiddo i glywed y swn yr ydych yn cwyno amdano. Er mwyn trefnu eich ymweliadau ar yr adegau y bydd y swn fwyaf tebygol o ddigwydd, efallai y bydd gofyn i chi lenwi taflen gofnodi, gan nodi pryd mae'r swn yn digwydd. Gall y swyddog osod offer cofnodi swn hefyd yn eich eiddo fel rhan o'r archwiliad. Efallai y bydd angen i ni glywed y swn nifer o weithiau i sefydlu a oes yna niwsans.

Ni fyddwn yn dweud wrth unrhyw un pwy sydd wedi gwneud y gwyn. Fodd bynnag, pan fydd archwiliad yn dechrau, mae'n bosibl y bydd yr unigolyn sy'n gwneud y swn yn dyfalu pwy sydd wedi cwyno, a dylech fod yn barod am hyn.

Bydd y swyddog yn edrych ar yr holl dystiolaeth ac yn penderfynu a yw'r swn yn bodloni'r diffiniad cyfreithiol o niwsans swn. Os felly, bydd Rhybudd Diddymiad yn cael ei gyflwyno i'r unigolyn sy'n gyfrifol am y swn dan Adran 80 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Gall y rhybudd hwn ofyn am ostwng neu roi terfyn i'r swn ac efallai y byddwn yn gofyn am gynnal gwaith i ostwng y llygredd swn. Bydd amser rhesymol yn cael ei roi i'r unigolyn er mwyn cydymffurfio, a gall rhywun y cyflwynir Rhybudd Diddymiad iddynt apelio i Lys yr Ynadon.

Os na fyddant yn cydymffurfio â Rhybudd, maent wedi cyflawni trosedd ac efallai y cânt eu herlyn. Mae angen tystion er mwyn gallu erlyn ac mae'n bosibl y bydd gofyn i'r sawl sy'n cwyno  ymddangos yn y llys. Ni allwn wneud i dyst ymddangos yn y llys ond gall fod yn anodd cyflwyno achos llwyddiannus heb i'r sawl sy'n cwyno fod yn bresennol.

Os na allwn ddod o hyd i ddigon o dystiolaeth am y swn i weithredu, gallwch weithredu'n breifat dan Adran 82 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Bydd swyddogion y cyngor yn gallu rhoi cyngor ar hyn.

Sut allwch chi osgoi achosi niwsans swn?

Gall swyddogion y cyngor roi cyfarwyddyd penodol ar sut i beidio ag achosi niwsans i'ch cymdogion. Mae'r canlynol yn enghreifftiau:

  • Peidiwch â rhoi seinyddion ar y waliau
  • Gwnewch yn siwr eich bod yn gallu clywed cloch y drws uwchben y gerddoriaeth neu'r teledu
  • Ceisiwch gadw lefelau sain yn isel yn hwyr y nos
  • Rhowch wybod i'ch cymdogion os ydych yn cael parti
  • Peidiwch â gadael eich ci ar ei ben ei hun am gyfnodau hir o amser
  • Os yw eich ci yn cyfarth, ceisiwch weld pam a'i ddistawu
  • Peidiwch â defnyddio eich peiriant golchi na  thaflwr sychu yn hwyr y nos

 

Cyswllt

  • Ebost: public.protection@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 827467
  • Cyfeiriad: 
    • Sir Brycheiniog, Neuadd Brycheiniog, Cambrian Way, Aberhonddu, LD3 7HR
    • Sir Drefaldwyn, Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, SY21 7PH
    • Sir Faesyfed, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.

Eich sylwadau am ein tudalennau