Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Lles Anifeiliaid

Mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn rhoi pwerau a chyfrifoldebau ehangach i Awdurdodau Lleol o ran anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes.  Rhennir y cyfrifoldeb am anifeiliaid anwes gyda'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA).  Fel arfer, yr RSPCA sy'n cymryd cyfrifoldeb am anifeiliaid domestig neu anifeiliaid anwes.

Image of a kitten and a puppy

Gallwch roi gwybod i ni am unrhyw bryderon sydd gennych am les anifeiliaid ar-lein, neu trwy gysylltu â'n swyddfeydd, neu trwy'r RSPCA.

Anifeiliaid fferm trig

Os ydych yn gweld anifeiliaid fferm trig, rhowch wybod i ni.

Anifeiliaid Marw ar y Ffyrdd

Os ydych yn gweld carcasau da byw ar y briffordd neu ymyl y ffordd, rhowch wybod i ni, a byddwn yn trefnu i'r carcasau gael eu casglu a'u gwaredu.

Stoc Trig ar Dir Preifat

Dylid rhoi gwybod i'r Gwasanaeth Safonau Masnach am bob achos o garcasau anifeiliaid fferm ar dir preifat, a fydd yn ymchwilio i'r mater ac yn trefnu i'r ffermwr/ perchennog tir dan sylw gael gwared â'r carcasau.

Rhoi gwybod am bryderon ar les anifeiliaid Rhoi gwybod am bryderon ar les anifeiliaid

 

Cyswllt

  • Ebost: public.protection@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 827467
  • Cyfeiriad: 
    • Sir Brycheiniog, Neuadd Brycheiniog, Cambrian Way, Aberhonddu, LD3 7HR
    • Sir Drefaldwyn, Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, SY21 7PH
    • Sir Faesyfed, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.

Eich sylwadau am ein tudalennau