Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyngor ar Bopeth

Mae Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor cyfrinachol a di-duedd am ddim i ddefnyddwyr ar wahanol faterion.

Os nad yw'r wefan yn darparu ateb i'ch problem, gallwch gysylltu â'r gwasanaeth gan ddefnyddio'u ffurflen ymholiad ar-lein neu ffoniwch 0808 2231133. 

Bilingual CAB logo

Gallwch gael cyngor ar nwyddau sy'n ddiffygiol, ddim yn addas i'r diben, neu heb eu disgrifio'n gywir, gwasanaethau sydd wedi'u cynnal heb ofal rhesymol ac o fewn amser rhesymol neu am bris derbyniol, beth i'w wneud os credwch i chi gael eich sgamio.

Os oes angen cyngor arnoch ynghylch problemau cyngor defnyddwyr sy'n fwy cymhleth, bydd Cyngor ar Bopeth yn atgyfeirio hyn i adran cyngor defnyddwyr y cyngor, sef rhan o wasanaeth Safonau Masnach Powys.