Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflenwadau Dwr Preifat

Unrhyw gyflenwad dwr nad yw cwmni dwr yn ei ddarparu yw cyflenwad dwr preifat. Gallai ffynhonnell y cyflenwad for yn darddell, yn ffynnon, yn ddyfrdwll neu'n ddwr wyneb (nentydd, llynnoedd ac ati). Gall cyflenwad o'r fath wasanaethu un annedd, sawl eiddo neu safleoedd masnachol neu gyhoeddus.
Image of a water droplet

Mae pob cyflenwad dwr preifat yng Nghymru'n cael ei reoleiddio dan Reoliadau Cyflenwadau Dwr Preifat (Cymru) 2017. Cyflwynwyd y Rheoliadau i sicrhauu bod dwr o gyflenwadau dwr yn iachus, fely bod pobl sy'n yfed y dwr, neu'n yfed diodydd neu'n bwyta bwydydd a gafodd eu gwneud o gyflenwadau preifat, yn gallu gwneud hynny heb risgio'u hiechyd.

Dan y rheoliadau hyn mae gofyn i ni;

  • gynnal asesiad risg o bob cyflenwad dwr sy'n cael ei rannu a chyflenwadau masnachol bob 5 mlynedd ac ymateb i unrhyw gais am asesiad risg gan berchnogion neu breswylwyr unrhyw annedd unigol.
  • monitro pob cyflenwad dwr sy'n cael ei rannu a chyflenwadau masnachol yn unol ag amlder y samplo a nodwyd, ac ymateb i unrhyw gais gan berchnogion neu breswylwyr unrhyw annedd unigol.
  • cadw cofnod o bob cyflenwad dwr preifat yn yr ardal a darparu adroddiadau o'n gweithgareddau i'r Arolygiaeth Dwr Yfed (DWI).
  • dilyn gweithdrefnau gosod os ydym yn ystyried cyflenwad dwr preifat yn afiachus neu'n berygl posibl i iechyd pobl.

Os oes gan eich cartref neu'ch gwaith gyflenwad dwr preifat ac nid yw wedi'i gofrestru ar hyn o bryd. Gallwch  lawrlwytho holiadur (PDF) [148KB] a'i ddychwelyd atom.

Os oes gennych gyflenwad dwr preifat ac am drefnu i rywun gymryd sampl ohono, neu os hoffech chi gael rhagor o gyngor am faterion sy'n ymwneud â chyflenwadau dwr preifat, cysylltwch â ni.

Ffioedd a thaliadau

Ffioedd cyflenwadau dwr preifat

 

 

Cyswllt

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.

Eich sylwadau am ein tudalennau