Bydd y Cyngor yn cyflwyno Gorchmynion Cau Ffordd Dros Dro pan fydd angen i ni gau ffordd am resymau diogelwch. Gallai hynny fod oherwydd bod gwaith yn cael ei wneud ar y ffordd, neu bod achlysur arbennig yn cael ei gynnal, er enghraifft gorymdaith carnifal. Os credwch y gallai fod angen i ni gau ffordd, bydd angen i chi wneud cais am Orchymyn.
Mae angen o leiaf 10 wythnos arnom i brosesu Gorchymyn er mwyn caniatau i weithdrefn gyfreithiol gael ei dilyn. Mae'n rhaid i ni hysbysebu yn y wasg leol ac ar y safle. Byddwn yn codi am wneud hyn er mwyn talu ein costau. Gallwch ddechrau'r broses ymgeisio trwy lenwi'r ffurflen ymholiadau ar y dudalen hon.
Defnyddiwch ein ffurflenni ar-lein
Gofyn am gau ffordd