Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Cwestiynau Cyson am Drwyddedau Parcio

  1. Dylech ddangos y Drwydded mewn lle amlwg ar ffenestr flaen y cerbyd pan yn ei ddefnyddio.
  2. Dim ond ar gyfer y cerbyd hynny y rhoddwyd y Drwydded ar eu cyfer y mae'r drwydded yn ddilys.
  3. Mae Trwyddedau Mesydd Parcio yn ddilys mewn meysydd parcio cyfnod hir ym Mhowys YN UNIG.  NID YW'R Drwydded Parcio yn ddilys mewn unrhyw faes parcio cyfnod byr na chanolfan hamdden
  4. Mae Trwyddedau Parcio Trigolion yn ddilys o fewn yr ardal a nodir ar y drwydded YN UNIG.
  5. Nid yw'r ffaith fod gennych Drwydded Parcio yn golygu y bydd lle ar gael i chi barcio.  Os nad oes unrhyw leoedd parcio ar gael, nid yw hyn yn cyfiawnhau i chi barcio mewn mannau na ddylech yn rhywle arall.
  6. Nid oes hawl gennych ddefnyddio lle parcio i'r anabl.
  7. Nid yw treilars na charafannau yn cael eu cynnwys oni bai eu bod wedi'u cynnwys yn y math o drwydded sydd gennych [ar gyfer meysydd parcio yn unig].
  8. Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i ganslo unrhyw drwydded sy'n cael ei chamddefnyddio.
  9.  Byddwn yn codi tâl gweinyddol o £25 am drwydded newydd os ydych yn newid eich rhif cerbyd, ond bydd rhaid cyflwyno'r drwydded wreiddiol pan yn gofyn am un newydd
  10.  Byddwn yn codi tâl gweinyddol o £25 am drwydded newydd yn lle un a gollwyd neu os byddwch yn gofyn am ad-daliad wrth ildio trwydded.
  11. Ni ellir trosglwyddo'r Drwydded.  Eiddo Cyngor Sir Powys yw'r drwydded hon, a dylid ei dychwelyd os bydd y Cyngor yn gofyn amdani am unrhyw reswm.
  12. Dim ond trwyddedau a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Powys sy'n ddilys.
  13. Ni chewch gopio trwyddedau a bydd gwneud hynny'n dirymu'r un gwreiddiol.

BYDD METHIANT I DDILYN YR AMODAU A THELERAU YN ARWAIN AT ORFOD TALU TÂL COSB

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu