Cwestiynau Cyson am Drwyddedau Parcio
- Dylech ddangos y Drwydded mewn lle amlwg ar ffenestr flaen y cerbyd pan yn ei ddefnyddio.
- Dim ond ar gyfer y cerbyd hynny y rhoddwyd y Drwydded ar eu cyfer y mae'r drwydded yn ddilys.
- Mae Trwyddedau Mesydd Parcio yn ddilys mewn meysydd parcio cyfnod hir ym Mhowys YN UNIG. NID YW'R Drwydded Parcio yn ddilys mewn unrhyw faes parcio cyfnod byr na chanolfan hamdden
- Mae Trwyddedau Parcio Trigolion yn ddilys o fewn yr ardal a nodir ar y drwydded YN UNIG.
- Nid yw'r ffaith fod gennych Drwydded Parcio yn golygu y bydd lle ar gael i chi barcio. Os nad oes unrhyw leoedd parcio ar gael, nid yw hyn yn cyfiawnhau i chi barcio mewn mannau na ddylech yn rhywle arall.
- Nid oes hawl gennych ddefnyddio lle parcio i'r anabl.
- Nid yw treilars na charafannau yn cael eu cynnwys oni bai eu bod wedi'u cynnwys yn y math o drwydded sydd gennych [ar gyfer meysydd parcio yn unig].
- Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i ganslo unrhyw drwydded sy'n cael ei chamddefnyddio.
- Byddwn yn codi tâl gweinyddol o £25 am drwydded newydd os ydych yn newid eich rhif cerbyd, ond bydd rhaid cyflwyno'r drwydded wreiddiol pan yn gofyn am un newydd
- Byddwn yn codi tâl gweinyddol o £25 am drwydded newydd yn lle un a gollwyd neu os byddwch yn gofyn am ad-daliad wrth ildio trwydded.
- Ni ellir trosglwyddo'r Drwydded. Eiddo Cyngor Sir Powys yw'r drwydded hon, a dylid ei dychwelyd os bydd y Cyngor yn gofyn amdani am unrhyw reswm.
- Dim ond trwyddedau a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Powys sy'n ddilys.
- Ni chewch gopio trwyddedau a bydd gwneud hynny'n dirymu'r un gwreiddiol.
BYDD METHIANT I DDILYN YR AMODAU A THELERAU YN ARWAIN AT ORFOD TALU TÂL COSB