Meysydd parcio Llandrindod
Mae yna dri maes parcio talu ac arddangos yn Llandrindod:
- Maes parcio Neuadd y Dref (LD1 5DL) sy'n faes parcio cyfnod hir ar gyfer ceir modur yn unig.
- Maes parcio Stryd Middleton (LD1 5LU) sy'n faes parcio cyfnod byr (hyd at 2 awr) ar gyfer ceir modur yn unig).
- Maes parcio'r Stryd Fawr (LD1 6BG) sy'n faes parcio cyfnod hir.
Mae'r meysydd parcio hyn i gyd yn cynnwys mannau i'r anabl.
Ffioedd safonol y meysydd parcio
Gellir prynu trwyddedau maes parcio a thocynnau tymor meysydd parcio ar gyfer pob maes parcio arhosiad hir.
PayByPhone: mae'r opsiwn i dalu am barcio trwy'ch ffôn symudol ar gael ym mhob maes parcio talu ac arddangos Cyngor Sir Powys.
Mae peiriannau talu ac arddangos yn derbyn arian parod a chardiau, lle bo'n berthnasol.
