Meysydd parcio Llanfair ym Muallt
Mae dau faes parcio talu ac arddangos yn Llanfair-ym-Muallt:
- Mae maes parcio'r Groe (LD2 3BL) yn un cyfnod hir ar gyfer pob math o gerbydau.
- Mae maes parcio Smithfield (LD2 3AN) yn un cyfnod hir ar gyfer pob math o gerbydau.
Mae'r meysydd parcio hyn i gyd yn cynnwys mannau i'r anabl.
Ffioedd safonol y meysydd parcio
Gellir prynu trwyddedau maes parcio a thocynnau tymor meysydd parcio ar gyfer pob maes parcio arhosiad hir.
PayByPhone: mae'r opsiwn i dalu am barcio trwy'ch ffôn symudol ar gael ym mhob maes parcio talu ac arddangos Cyngor Sir Powys.
Mae peiriannau talu ac arddangos yn derbyn arian parod a chardiau, lle bo'n berthnasol.