Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Marchnadoedd a Stondinau

Markets, stalls and street trading
 Mae'n rhaid i chi wneud cais am drwydded i fasnachu ar briffordd gyhoeddus.

Cysylltwch â'r cyngor tref lleol am wybodaeth gyffredinol am farchnadoedd penodol.  Cysylltwch â ni am stondin yn Neuadd Farchnad Y Drenewydd neu yn Neuaddau Marchnad Tref-y-clawdd, Llanfair-ym-Muallt ac Aberhonddu. 

 

Stondinau Marchnad 

Anfonwch e-bost gofyn am gyngor neu wybodaeth am farchnadoedd cynnyrch yma
neu
Anfonwch e-bost i ofyn am drwydded masnachu ar y stryd neu ganiatad neu i newid trwydded masnachu ar y stryd

 

Gallwch gael gwybodaeth am farchnadoedd penodol trwy gysylltu â'r Cyngor Tref lleol i'r farchnad priodol fel a ganlyn:-

 

Trwyddedau masnachu ar y stryd

Rydym yn rheoli masnachwyr sy'n gwerthu nwyddau o unedau symudol ar y ffordd fawr gyhoeddus yn llym.

Ar gyfer rhai strydoedd yn Y Drenewydd, rhaid cael hawl i fasnachu ar y stryd.

Ar gyfer rhannau eraill o'r sir, cysylltwch â'r Awdurdod Priffyrdd a'r heddlu i gael caniatâd.

 

Gwneud cais am drwydded masnachu ar y stryd

Cysylltwch â ni am ffurflen gais - gallwch ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.

Os na fyddwch wedi clywed gennym o fewn 41 diwrnod o gyflwyno eich cais, gallwch ystyried bod eich cais wedi cael ei ganiatáu.

Codir tâl ar gyfer y drwydded hon.

Ffioedd a thaliadau trwyddedau

 

Apelio

Os nad ydych yn hapus â'r penderfyniad, cysylltwch â ni i'w drafod.

 

Cwynion gan Ddefnyddwyr

Os oes gennych gwyn am fasnachwr stryd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.

 

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma