Marchnadoedd a Stondinau
Mae'n rhaid i chi wneud cais am drwydded i fasnachu ar briffordd gyhoeddus.
Cysylltwch â'r cyngor tref lleol am wybodaeth gyffredinol am farchnadoedd penodol. Cysylltwch â ni am stondin yn Neuadd Farchnad Y Drenewydd neu yn Neuaddau Marchnad Tref-y-clawdd, Llanfair-ym-Muallt ac Aberhonddu.
Stondinau Marchnad
Anfonwch e-bost gofyn am gyngor neu wybodaeth am farchnadoedd cynnyrch yma
neu
Anfonwch e-bost i ofyn am drwydded masnachu ar y stryd neu ganiatad neu i newid trwydded masnachu ar y stryd
Gallwch gael gwybodaeth am farchnadoedd penodol trwy gysylltu â'r Cyngor Tref lleol i'r farchnad priodol fel a ganlyn:-
- Cysylltwch â'r Gelli Gandryll ar info@haymarkets.co.uk
- Cysylltwch â Chrughywel ar https://visitcrickhowell.wales/
- Cysylltwch â'r Drenewydd ar townclerk@newtown.org.uk
- Cysylltwch â Machynlleth ar enquiries@machynlleth-tc.gov.uk
- Cysylltwch â Llanidloes ar townclerkllani@pc-q.net
- Cysylltwch â Threfaldwyn ar townclerk@montgomery-wales.uk
- Cysylltwch â'r Trallwng ar wtcouncil@btinternet.com
- Cysylltwch ag Aberhonddu (Marchnadoedd Dydd Mawrth a dydd Gwener yn unig) ar darren@pipecorp.co.uk (Darren Sockett 01432 270396)
Trwyddedau masnachu ar y stryd
Rydym yn rheoli masnachwyr sy'n gwerthu nwyddau o unedau symudol ar y ffordd fawr gyhoeddus yn llym.
Ar gyfer rhai strydoedd yn Y Drenewydd, rhaid cael hawl i fasnachu ar y stryd.
Ar gyfer rhannau eraill o'r sir, cysylltwch â'r Awdurdod Priffyrdd a'r heddlu i gael caniatâd.
Gwneud cais am drwydded masnachu ar y stryd
Cysylltwch â ni am ffurflen gais - gallwch ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.
Os na fyddwch wedi clywed gennym o fewn 41 diwrnod o gyflwyno eich cais, gallwch ystyried bod eich cais wedi cael ei ganiatáu.
Codir tâl ar gyfer y drwydded hon.
Ffioedd a thaliadau trwyddedau
Apelio
Os nad ydych yn hapus â'r penderfyniad, cysylltwch â ni i'w drafod.
Cwynion gan Ddefnyddwyr
Os oes gennych gwyn am fasnachwr stryd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma