Talu anfoneb
Gallwch wneud taliadau i Gyngor Sir Powys gan ddefnyddio un o'r dulliau canlynol. Gallwch ein talu ni am bethau eraill trwy ddilyn dolenni eraill ar y dudalen yma.
Ddim yn talu anfoneb? Mae'r dudalen hon ar gyfer anfonebau'n unig - ewch i'r adran 'Talu' am daliadau eraill.
neu
Gallwch dalu gyda cherdyn debyd/credyd ar y rhif ffôn awtomataidd 24 awr. Cofiwch gael yr anfoneb neu'r cyfeirnod wrth law pan fyddwch yn ffonio.
Ffôn: 03300 889 578
Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol
Os byddwch yn derbyn anfonebau gennym yn aml am yr un math o beth, gallwch ddewis talu pob anfoneb yn y dyfodol trwy ddebyd uniongyrchol. Allwch chi ddim talu unrhyw anfonebau a gawsoch yn barod, a gallwch chi ddim talu fesul rhandaliadau
Yn aml defnyddir taliadau debyd uniongyrchol i:
- Anfonebau gwastraff masnachol
- Anfonebau gofal cymdeithasol
- Anfonebau Careline /larymau gofal
- Anfonebau stadau
- Anfonebau rhent gweithdai Busnes
- Anfonebau rhent tir
Os hoffech dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol, argraffwch hwn a'i ddychwelyd i'r cyfeiriad ar y mandad. Peidiwch â'i anfon yn syth i'r banc.
Ffurflen Mandad Debyd Uniongyrchol (PDF) [317KB]
Cael trafferth talu?
Eich cyfrifoldeb chi yw talu unrhyw arian sy'n ddyledus gennych i Gyngor Sir Powys o fewn yr amser a bennir (30 diwrnod mewn perthynas ag anfonebau cyffredinol).
Os ydych yn cael anhawster yn gwneud taliadau: Debt.recovery.team@powys.gov.uk neu 01597 826078 (9am - 1pm)