Toglo gwelededd dewislen symudol

Parhad Busnes

Mae cynllunio parhad busnes yn golygu sicrhau fod eich busnes yn cael ei baratoi petai'r annisgwyl yn digwydd.

Mae gan Gyngor Sir Powys ddyletswydd i hybu parhad busnes i'r sectorau busnes a gwirfoddol trwy eu hannog i gynllunio ar gyfer trychinebau fel llifogydd, tanau, colli pŵer a cholli staff allweddol.

 

Oeddech chi'n gwybod?

  • Mae bron 1 mewn 5 o fusnesau yn dioddef digwyddiadau aflonyddgar pob blwyddyn.
  • Bydd 80% o fusnesau a effeithir gan ddigwyddiad mawr naill ai byth yn ailagor neu'n cau o fewn 18 mis.
  • Mae 90% o fusnesau sy'n colli data trwy argyfwng yn cael eu gorfodi i gau o fewn 2 flynedd.

 

Mae cynllunio parhad busnes effeithiol yn helpu busnesau a sefydliadau i ragweld peryglon a chynllunio eu hymateb ymlaen llaw. Mae profiad yn dangos bod datblygu cynllun parhad yn gallu helpu i leihau effaith a chostau argyfwng. Mae'n golygu y bydd eich sefydliad yn llawer mwy tebygol o fedru parhau i fasnachu/cyflenwi gwasanaethau pe bai trychineb yn digwydd.

Er bod argyfyngau mawr yn brin ym Mhowys, mae digwyddiadau llai'n tarfu arnom yn llawer mwy rheolaidd. Mae hyn yn dangos bod angen i ni baratoi.

Y nod yw sicrhau bod sefydliadau lleol yn barod ar gyfer argyfwng a all effeithio ar eu gallu i ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd. Felly pe bai digwyddiad yn bod dylai fod llai o effaith ar yr economi leol a bydd bywyd cymunedol yn dod yn ôl i drefn cyn gynted ag y bo modd.

 

 

A allwch chi fforddio dolen neu gyswllt gwan?

Mae cynllunio parhad busnes yn golygu sicrhau fod eich busnes yn cael ei baratoi petai'r annisgwyl yn digwydd. Fe fydd yn helpu i sicrhau fod eich busnes yn dioddef yr ymyrraeth leiaf posibl ac yn parhau i weithredu yn y pen draw yn ystod argyfwng a thu hwnt iddo.  

Bydd cael rheolaeth gadarn ar waith o ran parhad y busnes hefyd yn eich helpu i ddelio gyda'r argyfyngau llai hynny neu ddigwyddiadau o ymyrraeth sydd wedi'u cynllunio gan eu rhwystro rhag datblygu i fod yn rhai na allwch eu rheoli.

Mae cynllunio parhad busnes yn bwysig i bob busnes, o'r lleiaf hyd at y cwmniau rhyngwladol mwyaf.

Er bod angen rhoi ystyriaeth ofalus i ddatblygu eich proses parhad busnes, nid yw'n anodd ei gyflawni ac ni ddylai fod yn ddrud. Fodd bynnag, bydd amser sy'n cael ei dreulio nawr yn atal digwyddiadau o aflonyddwch rhag troi'n drychineb i'ch busnes.

Mae Grŵp Hapddigwyddiadau Sifil Awdurdodau Lleol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cynhyrchu'r Canllaw  Business Continuity: Can you afford a weak link (PDF) [1MB] i'ch helpu i sicrhau fod eich busnes yn barod

 

Hunanasesiad

Mae Grŵp Hapddigwyddiadau Sifil Awdurdodau Lleol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd wedi cyhoeddi templed hunan-asesu i'ch cynorthwyo wrth amlygu materion yn gyflym y mae angen i chi eu hystyried i'ch paratoi am argyfwng a all aflonyddu ar eich busnes.  

Os nad oes gennych gynllun parhad busnes, bydd y templed hwn yn eich helpu i amlinellu'r materion sydd angen i chi eu hystyried i'ch galluogi i baratoi ar gyfer argyfwng a all aflonyddu ar eich busnes. Os oes gennych gynllun, yna gall eich helpu i ddynodi unrhyw faterion nad ydych chi wedi'u hystyried yn flaenorol.

Gall cynllun effeithiol wneud eich busnes yn fwy deniadol i gwsmeriaid gan fod nifer sy'n gofyn i gyflenwyr gael cynllun parhad busnes erbyn hyn. Gall y broses gynllunio wella eich busnes a gall cael cynllun parhad busnes ostwng eich premiymau yswiriant.  

 

Os ydych angen cymorth ychwanegol neu os ydych yn dymuno trafod unrhyw fater penodol o ran parhad busnes, gallwch gysylltu â'n Tîm Hapddigwyddiadau Sifil ar emergency.planning@powys.gov.uk.

 

 

Peryglon Posibl

 

 

Cofrestr Risgiau Cymunedol

Un o ofynion statudol Deddf Argyfyngau Sifil 2004 yw ystyried tebygrwydd ac effaith amrywiaeth o beryglon yn ardal Heddlu Dyfed Powys.

I'n helpu i benderfynu lle dylem ganolbwyntio o ran cynllunio mewn argyfwng, mae'n bwysig ein bod yn parhau i asesu peryglon posibl yn ein Sir. Mae Deddf Argyfyngau Sifil 2004 yn pwysleisio pwysigrwydd asesu peryglon.

Gallwch gael hyd i'r gofrestr risgiau cymunedol a mwy o wybodaeth trwy fynd i wefan Fforwm Dyfalbarhad Lleol Dyfed Powys.

Mae hwn yn waith parhaus. Bydd asesiadau risg y gofrestr dim ond yn rhoi sylw i ddigwyddiadau nad ydynt yn faleisus (hynny yw, peryglon) yn hytrach na bygythiadau (e.e. digwyddiadau terfysgol). Nid yw'r ffaith bod peryglon neu sefyllfaoedd penodol wedi cael eu cynnwys yn golygu bod y Fforwm Dyfalbarhad Lleol yn credu y byddan nhw'n digwydd. Neu, pe paen nhw'n digwydd, y byddan nhw'n digwydd i'r fath raddau. Yn hytrach, mae'r senarios yn disgrifio'r gwaethaf a all digwydd yn nhyb rhesymol y Cyngor ar sail asesiadau risg.

Y Gofrestr Risgiau Cymunedol yw'r cam cyntaf mewn proses cynllunio argyfyngau. Mae'n ein helpu ni a'n partneriaid i sicrhau bod y cynlluniau rydym yn eu datblygu'n gymesur â'r risg, ac yn y pen draw i'n helpu ni i'ch helpu chi.

 

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma