Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rhybudd: Bydd dyddiau casglu gwastraff ac ailgylchu yn newid dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Cyngor ar brosiectau datblygu cymunedol

Gall Adran Adfywio'r cyngor helpu grwpiau cymunedol i gael mynediad at nawdd, sgiliau a chyngor. Rydym wedi sefydlu gwefan partneriaeth i gynnig cyngor i brosiectau cymunedol ym mhob cwr o Bowys.

 

Mae Canolfannau i'r Gymuned  Powys wedi'u sefydlu i'ch helpu chi:

  • cynllunio a sefydlu Canolfan Gymunedol sy'n diwallu anghenion eich cymuned
  • canfod yr hyn sy'n gweithio mewn mannau eraill
  • sicrhau fod y ganolfan yn cael ei rhedeg yn dda, yn gyfreithlon a heb broblemau
  • gwneud eich Canolfan Gymunedol yn gynaliadwy yn ariannol
  • dod o hyd i ffynonellau eraill o gymorth
  • rhwydweithio gyda phrosiectau tebyg ym Mhowys fel y gallwch rannu gwybodaeth

Mae Gwasanaeth Datblygu Economaidd ac Adfywio Cyngor Sir Powys yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid i helpu busnesau lleol, mentrau cymdeithasol, sefydliadau cymunedol ac unigolion. Os ydych yn chwilio am gymorth i ddatblygu menter, yna cysylltwch â ni i gael cymorth a chyngor am ddim.

Cysylltiadau

Eich sylwadau am ein tudalennau

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu