Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor/Trethi Busnes​​​​​​​ ar gau ddydd Mercher 20 Mawrth

Gweld manylion eiddo sydd ar werth neu i'w rhentu

Mae'r Cyngor yn berchen ar eiddo sy'n cael ei ddefnyddio wrth ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau i'r cyhoedd. Rydym yn cadw mapiau'r Arolwg Ordnans sy'n dangos ffiniau'r holl dir sy'n perthyn i ni, yn ogystal â manylion yr holl bryniannau a gwerthiannau, ynghyd â phrydlesi, cytundebau gosod, trwyddedau a hawddfreintiau.

 

Eiddo ac Asedau

Rydym yn gyfrifol am reoli amrediad eang o eiddo ledled y sir. Mae hyn yn cynnwys ysgolion, swyddfeydd y cyngor, stadau fferm, canolfannau hamdden a llyfrgelloedd. Mae gennym hefyd bortffolio sylweddol o eiddo, tir a safleoedd sy'n addas ar gyfer sawl math o fusnes ac anghenion arbennig.

Mae eiddo'n adnodd gwerthfawr, ac mae'r ffordd rydym yn defnyddio ac yn rheoli ein hasedau'n ganolog i'n gallu i ddarparu gwasanaethau'n effeithiol.

 

Cofrestr Asedau

Mae'r Gofrestr Asedau yn dal holl gofnodion perchen eiddo Cyngor Sir Powys. Os ydych yn dymuno gwybod a ydym yn berchen darn penodol o dir ai peidio, defnyddiwch y wybodaeth a gyflwynir i gysylltu.

Os nad yw'r tir yn perthyn i'r Cyngor, mae'n bosibl y bydd y Gofrestrfa Tir yn gallu helpu.

Eiddo ar Werth

Gweld yr eiddo sydd ar werth gennym ar hyn o bryd yma

Eiddo Ar Osod

Gweld yr eiddo sydd ar gael i'w rhentu gennym ar hyn o bryd yma

Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Mae'r term "trosglwyddo asedau i'r gymuned" sy'n cael ei dalfyrru fel "CAT", yn cael ei ddiffinio fel "trosglwyddo perchnogaeth neu reolaeth adeilad neu ddarn o dir o gorff sector cyhoeddus i sefydliad trydydd sector"

Ffermydd y Sir

Gyda 144 daliad a thir yn estyn hyd at 11,400 erw, Stad Ffermydd Sir Powys yw'r ystâd fwyaf o'i math yng Nghymru, a'r bumed fwyaf ym Mhrydain.

Cysylltu â ni

Dod o hyd i'n manylion cyswllt yma