Toglo gwelededd dewislen symudol

Safonau Masnach - Calibradu offer

Os ydych angen mesuriad cywir o ran mas, cyfaint neu hyd, gall Gwasanaeth Calibradu Safonau Masnach eich helpu.

Cywirdeb

P'un ai'n calibradu mesuriadau mas, cyfaint neu hyd, rydym yn dilyn gweithdrefnau llym fel y gallwch fod yn hyderus fod ein canlyniadau yn gywir. Bydd pob eitem a gyflwynir i'w galibradu'n cael ei ddychwelyd gyda thystysgrif calibradu y gellir ei olrhain yn llwyr sy'n dderbyniol ar gyfer y mwyafrif o systemau ansawdd. 

 

Gwasanaeth achrededig

Rydym yn rhedeg Labordy Calibradu Mesuregol yn Llandrindod. Rydym yn gallu calibradu mas o fewn yr ystod 1mg i 30kg (dosbarth cywirdeb M1) a hefyd yn gallu arddangos natur olrheiniadwy deunydd hyd at Safonau Cenedlaethol y Swyddfa Mesuriadau Genedlaethol.

Gallwn hefyd galibradu mesurau cynhwysedd a hyd.

Mae ein gwasanaeth calibradu o fudd arbennig i gwsmeriaid sydd angen gwybod pa mor gywir yw'r pwysau/darnau profi y byddant yn eu defnyddio, neu sydd angen darparu prawf o gywirdeb ar gyfer dibenion sicrhau ansawdd. Mae'r gwasanaeth ar gael i bob busnes, lle bynnag y maen nhw.

Mae ein gwasanaeth yn gorff achrededig er dibenion Rheoliadau Offer Pwyso An-Awtomatig 2000 a'r Cyfarwyddyd Offer Mesur.

Gallwn orffen y gwaith yn gyflym ar gyfer y rhan fwyaf o galibradau - 2 ddiwrnod gwaith fel arfer. Cysylltwch â ni am ddyfynbris am ddim.

Contacts

  • Email: trading.standards@powys.gov.uk
  • 0345: 0345 6027030
  • North Powys Address: Trading Standards - Business Advice, Neuadd Maldwyn, Severn Road, Welshpool, Powys, SY21 7AS
  • South Powys Address: Trading Standards - Business Advice, Neuadd Brycheiniog, Cambrian Way, Brecon, Powys, LD3 7HR
  • Mid Powys Address: Trading Standards - Business Advice, The Gwalia, Ithon Road, Llandrindod Wells, Powys, LD1 6AA

Feedback about a page here