Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwyddedau Sw

 
zoo licences
Rhaid i bob sw ym Mhrydain Fawr gael eu harchwilio a chael trwydded.  Mae hyn er mwyn gwneud yn siwr bod yr holl anifeiliaid  yn cael eu cadw mewn mannau addas sy'n rhoi'r cyfle iddynt ymddwyn yn y ffordd fwyaf naturiol.

 

Bydd angen trwydded ar unrhyw un sy'n cadw anifeiliaid gwyllt i'w gweld gan y cyhoedd am dâl neu beidio, am fwy na saith diwrnod mewn unrhyw ddeuddeg mis dilynol.  Mae eithriadau ar gyfer syrcas, siopau anifeiliaid anwes neu sefydliadau cofrestredig sy'n cynnal arbrofion ar anifeiliaid.

Mwy o wybodaeth gan y Swyddog Trwyddedu Ardal neu ewch i dudalennau trwyddedu sŵau Llywodraeth y DU.

 

Pan fyddwch yn gwneud cais

Rhaid i chi roi gwybod i ni o'ch bwriad i wneud cais o leiaf dau fis cyn eich bod yn cyflwyno cais.  Mae ffurflen i'w llenwi ar gyfer hyn.  Rhaid cyhoeddi rhybudd o'r bwriad hwn mewn papur newydd lleol a chenedlaethol a'i arddangos yn y safle.

 

Apeliadau

Cysylltwch â ni os hoffech wneud apel.

 

Gwneud cais am drwydded

Llenwch gais ar-lein trwy ddefnyddio'r dolenni isod.  Bydd y dolenni yn eich trosglwyddo i wefan arall y llywodraeth. 

Hysbysiad o redeg sw

Gwneud cais am drwydded i redeg sw

Gwneud cais i newid trwydded sw

Gallwch gael ffurflen gais trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.  Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd i'r swyddfa drwyddedu ardal gyda'r ffi.

Ffioedd a thaliadau ar gyfer trwyddedau

 

 

Cysylltiadau

  • Ebost: trading.standards@powys.gov.uk
  • Rhif ffôn: 0345 6027030 
  • Manylion cyswllt ar gyfer Gogledd Powys: Safonau Masnach - Iechyd a Symudiadau Anifeiliaid, Kirkhamsfield, Y Drenewydd, Powys, SY16 3AF
  • Manylion cyswllt ar gyfer De Powys: Safonau Masnach - Iechyd a Symudiadau Anifeiliaid, Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys, LD3 7HR

Eich sylwadau am ein tudalennau