Ffioedd a chostau Trwyddedau Tai
Ffioedd Tai Amlfeddiannaeth
Ffioedd Trwyddedau Gorfodol Tai Amlfeddiannaeth:
- Ffi'r drwydded sylfaenol yw £750 am hyd at 5 ystafell a rhaid ei dalu'n llawn gyda'r cais.
- Bydd yna dâl ychwanegol ar gyfer 6 - 10 ystafell o £25 fesul ystafell. Bydd 11 neu fwy o ystafelloedd yn golygu tâl ychwanegol o £40 fesul ystafell.
Ffioedd ychwanegol i'r drwydded Tai Amlfeddiannaeth:
- Ffi sylfaenol ar gyfer adeilad teirllawr (yn para 5 mlynedd) - £750
- Ffi ychwanegol ar gyfer safle mwy o faint (dros deirllawr) - £100 (fesul fflat)
Rhaid cynnwys y ffi lawn a chywir gyda'r ffurflen gais gyflawn.
Ni fydd tâl ar fflatiau gwag, ond dim ond os ydynt yn destun eithriadau priodol rhag Treth y Cyngor.
Mewn rhai amgylchiadau, bydd yr awdurdod yn torri'r symiau canlynol oddi ar y ffi uchod mewn sefyllfaoedd lle:
- Rhoddir darlun yn y raddfa briodol o'r holl eiddo - £100
- Mae'r landlord neu'r person cymwys a phriodol wedi'i achredu dan Gynllun Achredu Landlordiaid Cymru (cyn 1 Medi 2015) neu
- Wedi cofrestru dan gynllun Rhentu Doeth Cymru (ar ôl 1 Medi 2015) - £100