Gofyn am ddata personol a gynhelir gan y cyngor
Mae hawl gennych wneud cais am gopi o'r wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch chi o dan Reoliadau GDPR DU a Deddf Diogelu Data 2018.
Gwneud cais dan Ddeddf Diogelu Data
Os ydych am ddarganfod pa wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, bydd angen i chi lenwi ffurflen Cais Gwrthrych am Wybodaeth. (PDF, 291 KB)
Mae'n hawdd gwneud cais am gopi o'ch gwybodaeth bersonol. Dyma sut:
• Y ffordd gyflymaf yw anfon e-bost atom i: information.compliance@powys.gov.uk.
• Os na allwch anfon e-bost yna lawrlwythwch a chwblhau'r ffurflen gais (mae'r ddolen uchod).
• Bydd angen i chi ddarparu llungopïau neu sganiau o ddau fodd o'ch adnabod. Dylai'r naill fod â ffotograff a dylai'r llall gadarnhau eich cyfeiriad. Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol drwy'r post.
Beth y mae'r Ddeddf yn ei gwmpasu?
Mae hawl gennych gael eich hysbysu a ydym yn defnyddio eich data personol, neu a yw rhywun yn gwneud hynny ar eich rhan.
Yna gallwch dderbyn disgrifiad o'r data dan sylw; pam ei fod yn cael ei brosesu; at bwy y gallai fod wedi cael ei ddatgelu ac unrhyw ffynhonnell o'r wybodaeth. Os nad oes yna unrhyw ddata yn cael ei gadw, neu os yw'r data yn dod o dan gategori sydd wedi ei eithrio rhag cael ei ddatgelu, cewch hysbysiad ysgrifenedig ynghylch hynny.
Mae'n bosibl na fyddwn yn gallu rhyddhau peth data i chi, fel data personol a allai beri rhagfarn o ran atal neu ddatgelu trosedd; cyngor cyfreithiol a roddwyd i ni, neu ddata personol sy'n dynodi person arall heb ei ganiatâd. Ni fyddwn yn trafod manylion pobl eraill gyda chi, heb awdurdodiad ysgrifenedig a arwyddwyd gan y person hwnnw, neu ddogfen ddilys gyfreithiol neu bŵer atwrnai.
Does dim oblygiad arnom i gydymffurfio â chais sy'n datgan "Rwyf am weld popeth mae'r cyngor yn ei gadw amdanaf i."
Am ragor o wybodaeth ewch i Wefan y Comisiynydd Gwybodaeth