Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedau eiddo a phersonol - Ar ôl i chi wneud cais

Fel arfer, bydd yn cymryd rhwng un a thri mis o ddechrau'r cais.

Pan fyddwch yn gwneud eich cais, bydd yn rhaid i chi roi rhybudd ar y safle a rhybudd yn y wasg leol.  Bydd cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod yn dilyn ar gyfer awdurdodau, trigolion lleol a busnesau i gefnogi neu wrthwynebu'r cais ar ôl ystyried y canlynol:

  • atal trosedd ac anhrefn
  • diogelwch y cyhoedd
  • atal niwsans cyhoeddus
  • diogelu plant rhag niwed

Os oes gwrthwynebiadau na ellir eu datrys yn cael eu cyflwyno yn erbyn cais bydd y cais yn cael ei glywed gan ein pwyllgor trwyddedu.  Bydd rhaid cynnal y  gwrandawiad o fewn 20 diwrnod gwaith o ddiwedd y cyfnod ymgynghori.

Bydd y pwyllgor yn ystyried y cais a'r dystiolaeth.  Gallant benderfynu caniatau'r drwydded, newid yr amodau, eithrio gweithgaredd o'r drwydded, gwrthod nodi Goruchwyliwr Safle Dynodedig penodol ar y drwydded neu wrthod y cais.  Byddwn yn rhoi gwybod i chi a'r heddlu am y penderfyniad y byddwn yn ei wneud am eich trwydded.

Apeliadau

Gallwch gyflwyno apel, yn ogystal ag unrhyw un a wnaeth sylwadau ynglyn â'r cais os nad ydynt yn fodlon â'n penderfyniad.  Rhaid cyflwyno unrhyw apel i'r  Llys Ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod o'r dyddiad y rhoddwyd gwybod i chi am ein penderfyniad.  

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma