Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedau tacsi

Rhaid i Gerbydau Hacni neu Dacsis gael eu trwyddedu gan y Cyngor. Caniateir i dacsis barcio wrth ymyl safleoedd tacsis a gallant gael eu galw gan unrhyw deithiwr posibl.

O 1 Ebrill 2019 bydd polisi oedran ar gyfer cerbydau trwyddedig yn berthnasol:

Rhaid i gerbydau a gyflwynir am y tro cyntaf ar gyfer eu trwyddedu fod yn llai na 6 mlwydd oed o'r dyddiad cofrestru cyntaf (oed derbyn)

Rhaid i gerbydau sydd wedi'u trwyddedu ar hyn o bryd fod yn llai na 12 mlwydd oed o ddyddiad y cofrestru cyntaf cyn belled â bod pob trwydded ddilynol yn digwydd ar unwaith ar ôl i'r drwydded gyfredol ddod i ben. (h.y. dim toriad rhwng adnewyddu'r drwydded).
Bydd yr amod hwn yn effeithio ar drwyddedau cerbydau presennol pan ddaw'r drwydded i'w hadnewyddu ar ôl 31 Mawrth 2020 (12 mis ar ôl ei weithredu)

Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno trwyddedu tacsi wneud cais i'r Cyngor a rhaid iddynt fod yn gallu darparu cerbyd addas. 

Mae'r cerbydau'n cael eu harchwilio o leiaf unwaith y flwyddyn, yn ogystal â'r prawf MOT arferol.

Dim ond mathau arbennig o gerbydau fydd yn derbyn trwyddedau cerbyd. Bydd y cerbydau hyn yn addas i'w defnyddio fel tacsi a cherbyd llogi preifat. Ein blaenoriaeth yw sicrhau diogelwch, cysur a chyfleustra i bawb sy'n defnyddio'r cerbydau hyn, yn cynnwys pobl sydd â nam symudedd.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei weithredu o dan ofynion cyfreithiol sy'n golygu bod y  Cyngor yn gyfrifol am drwyddedu tacsis a cherbydau llogi preifat (minicabs), ynghyd â gyrwyr y cerbydau hyn, a gweithredwyr cerbydau llogi preifat.

Rhaid gosod mesurydd mewn tacsis trwyddedig ac nid ddylai gael ei osod ar fwy na   tariffs (PDF) [138KB] rheoledig y cyngor. Rhaid i chi ddefnyddio'r mesurydd ar gyfer pob taith. Caiff gyrwyr godi llai na phris y mesurydd ar gwsmeriaid ond mae'n drosedd i godi mwy na hynny. Dylai teithwyr sy'n credu bod gyrrwr wedi codi mwy na ffi'r mesurydd arnynt roi gwybod i'r Tîm Trwyddedu.

Ffurflenni Cais

Amodau Trwydded (PDF) [342KB]

Cais am Drwydded (PDF) [256KB]

Nodiadau Canllaw (PDF) [173KB]

Byddwn yn codi tâl am y trwyddedau hyn.

Bydd angen i chi wneud apwyntiad i gyflwyno eich cais a dogfennau'r cerbyd (yswiriant ac ati). Dylech hefyd gyflwyno'r cerbyd sydd i'w drwyddedu. Cysylltwch â ni.

Dim ond lle mae perchennog yn bwriadu gweithredu cerbyd hacni yn bennaf ym Mhowys y bydd trwyddedau Cerbydau Hacni yn cael eu cyhoeddi. Os gwelid na fydd Cerbyd sydd â Thrwydded Hacni Powys yn gweithredu'n bennaf ym Mhowys, yna bydd y drwydded yn debygol o gael ei thynnu'n ôl.

 

 

Os byddwch yn cael damwain yn eich cerbyd trwyddedig, rhaid i chi roi gwybod i'r adran: Drwyddedu gan ddefnyddio'r ffurflen hon (PDF) [156KB](Yn agor ffenestr newydd).

Mae amodau'r drwydded yn ei gwneud yn ofynnol i chi roi gwybod I ni am hyn o fewn 72 awr.  Anfonwch y ffurflen trwy'r e-bost at y tîm trwyddedu licensing@powys.gov.uk

 

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma