Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffoaduriaid ym Mhowys

 

Gwybodaeth am ffoaduriaid o Syria sy'n dod i Bowys

Ers y datganiad cyntaf i'r wasg ym mis Tachwedd 2015 pan gyhoeddodd Cyngor Sir Powys y byddai'n croesawu teuluoedd o Syria a'r gwledydd cyfagos, mae cymunedau Powys wedi croesawu deuddeg o deuluoedd ffoaduriaid, chwech yn Ystradgynlais a chwech yn Y Drenewydd.  Y bwriad yw adsefydlu chwech o deuluoedd eraill yn Llandrindod yn ystod 2018.

Pwy yw'r Syriaid sy'n dod i Bowys?

Teuluoedd cyffredin yw'r ffoaduriaid o Syria a fydd yn dod i Bowys. Buont yn byw bywydau cyffredin yn eu gwlad eu hunain, sef Syria, cyn iddi gael ei chwalu gan ryfel cartref creulon. Yn y rhyfel, collodd 220,000 eu bywydau (yn ôl yr amcangyfrif, roedd hanner y rheiny'n sifiliaid) a chollodd 11 miliwn eu cartrefi. Mae mwy na 4 miliwn yn ffoaduriaid mewn gwledydd eraill. Mae'r ffoaduriaid wedi byw am sawl blwyddyn mewn gwledydd fel yr Iorddonen a Libanus cyn cael eu dynodi'n bobl agored i niwed gan Uchel Gomisiwn y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR).

Caiff rhywun ei ddynodi'n swyddogol yn ffoadur pan fydd y Swyddfa Gartref yn derbyn eu cais am loches, neu pan fyddant yn destun statws ffoadur ar sail ddyngarol. Dynodwyd statws ffoaduriaid ar sail ddyngarol i'r ffoaduriaid o Syria ac mae ganddynt hawl i weithio ac i hawlio budd-daliadau, yr un fath â thrigolion y DU.

Ym Mhowys, rydym yn ceisio darparu llety ar gyfer teuluoedd gyda phlant, yn hytrach na pharau di-blant neu bobl unigol. 

Pam maent yn dod i Bowys?

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i adsefydlu 20,000 o ffoaduriaid o Syria dros y pum mlynedd nesaf. Bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru'n cefnogi adsefydlu ffoaduriaid, a bydd hyn yn cynnwys Powys. Bydd y ffoaduriaid o Syria'n rhan o'r Cynllun Adleoli Pobl Fregus, a bydd ganddynt amddiffyniad dyngarol am 5 mlynedd. 

Mae'r ffoaduriaid wedi derbyn cefnogaeth i ddod i'r DU oherwydd eu bod wedi'u dynodi fel pobl ymhlith y rhai sydd â'r angen mwyaf, yn unol â meini prawf y Cenhedloedd Unedig. Mae hyn yn golygu er enghraifft y gallent fod yn fenywod neu'n ferched â risg, yn bobl sydd wedi goroesi trais neu wedi eu harteithio, yn rhai sydd ag anghenion cael eu hamddiffyn yn gyfreithiol neu'n gorfforol (er enghraifft, gallent fod mewn perygl oherwydd eu barn wleidyddol), neu fod ag anghenion neu anableddau meddygol, yn blant neu'n lasoed mewn perygl, yn rhai sydd mewn perygl oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth o ran rhywedd, neu gallent fod â chysylltiadau teuluoedd â'r DU.  

A yw'r ffoaduriaid o Syria yn beryglus i'n diogelwch?

Tra roedd y ffoaduriaid yn eu gwlad, fe wnaethant ffoi yn sgil rhyfel cartref yn y wlad honno, ac maent wedi'u sgrinio gan yr UNHCR sydd wedi'u dynodi'n bobl fregus. Yn ogystal â hyn, maent wedi'u cyfwelid fel rhan o'r broses honno, ac wedi cael cliriad diogelwch gan y Swyddfa Gartref. Hefyd dylid cofio bod y ffoaduriaid o Syria wedi ffoi o'u mamwlad ac o afael rhyfel cartref creulon, ac maent yn ceisio diogelwch a noddfa i'w teuluoedd. 

A fyddan nhw'n cymryd adnoddau prin oddi ar bobl leol?

Er bod dyfodiad ffoaduriaid o Syria i Bowys yn digwydd ar adeg pan mae'r cyngor yn wynebu cwtogiad yn ei gyllideb, bydd Llywodraeth y DU yn talu holl gostau lletya ffoaduriaid o Syria a'u cynorthwyo i integreiddio i'r gymuned leol, gan ddefnyddio arian o'r gyllideb cymorth tramor. Fydd dyfodiad y ffoaduriaid ddim yn digwydd ar draul gofynion pobl leol.

Bydd Cyngor Sir Powys yn trefnu tai (a bydd Llywodraeth y DU yn talu am y rhain) ond dim ond ychydig iawn o eiddo personol fydd gan y ffoaduriaid. Er bod lefel uchel o angen a galw am dai cymdeithasol mewn sawl ardal ym Mhowys, mae hyn fel arfer ar gyfer mathau llai o eiddo, yn hytrach na chartrefi mwy i deuluoedd.

Dewiswyd cymunedau Ystradgynlais a'r Drenewydd i groesawu'r ffoaduriaid o Syria oherwydd nad oes galw arbennig o fawr am gartrefi mawr i deuluoedd yma eisoes. Hefyd cawsant eu dewis oherwydd bod lleoedd ar gael mewn ysgolion lleol i blant y ffoaduriaid.  

Ffeithiau yngl?n â Syria

Cyn y rhyfel cartref, roedd tua 23 miliwn o bobl yn byw yn Syria, ac roedd y wlad yn un ddatblygedig a seciwlar gydag economi'n seiliedig ar amaethyddiaeth a'r diwydiant olew, a'r bobl yno wedi derbyn addysg dda. 

Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth (74%) yn Fwslimiaid Sunni. Mae 12% o'r boblogaeth yn Alawitiaid, sef sect o Fwslimiaid Shia. Er mai lleiafrif ydynt, yr Alawitiaid sydd wedi rheoli'r llywodraeth am ddegawdau. Mae tua 10% o'r boblogaeth yn Gristnogion, a chanran fechan arall yn Druze, sef sect gyfriniol gydag elfennau sy'n gyffredin i sawl crefydd undduwiol.

Er mai'r Arabeg yw'r iaith sy'n cael ei siarad amlaf yn Syria, mae oddeutu 9% o'r boblogaeth yn siarad Cwrdeg. Hefyd mae lleiafrifoedd gweddol fawr yr Armeniaid a'r Turkmen yn siarad eu hieithoedd eu hunain.

Trefedigaeth Ffrengig oedd Syria ar un adeg, ac mae ei system addysg wedi'i seilio ar y model Ffrengig.