Toglo gwelededd dewislen symudol

Cydraddoldeb a thegwch yn y cyngor

Ein Cynllun Cydraddoldeb Corfforaethol a Strategol

Yn 2020, penderfynwyd integreiddio ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'n Cynllun Corfforaethol, a arweiniodd at lunio'r Cynllun Cydraddoldeb Corfforaethol a Strategol . Trwy gyfuno'r cynlluniau hyn, ein nod yw sicrhau fod cydraddoldeb yn rhan annatod o ran cyflawni canlyniadau gweledigaeth y Cyngor.

Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, tegwch, ac amrywiaeth, a gwella ein gwasanaethau a'n harferion cyflogaeth er mwyn diwallu anghenion gwahanol Pobl Powys a chyflogeion. Trwy wneud hyn, ein nod yw

  • atal gwahaniaethu — er mwyn sicrhau nad yw pobl yn cael eu trin yn wahanol oherwydd pwy ydyn nhw, eu diwylliant, anabledd neu unrhyw beth arall.
  • atal anfantais — er mwyn sicrhau nad yw pobl yn colli allan ar gyfleoedd bywyd oherwydd lle maen nhw'n byw, neu oherwydd amgylchiadau econoamidd-gymdeithasol.

Ceir mynediad at fersiynau blaenorol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol cyn 2020 trwy'r archif isod, ynghyd â'r adroddiadau monitro; er hynny, os hoffech weld y fersiwn cyfredol, gellir clicio ar y ddolen hon i fynd at ein Cynllun Cydraddoldeb Corfforaethol a Strategol.

Os hoffech dderbyn copi o unrhyw un o'r dogfennau hyn mewn print bras, braille, neu fformat hawdd ei darllen neu glywedol, croeso ichi gysylltu â ni trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.

Cydraddoldeb: Sef sicrhau fod pawb yn cael cyfleoedd cyfartal i fanteisio i'r eithaf ar fywyd, derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt, a chael eu trin yn deg. Yn ei hanfod, mae cydraddoldeb yn golygu tegwch: mae'n rhaid inni sicrhau na chaiff unigolion, neu grwpiau o unigolion, eu trin yn llai ffafriol oherwydd eu nodweddion gwarchodedig.

Tegwch: Sef deall nad yw pawb yn dechrau o'r un man cychwyn. Mae angen rhagor o gymorth ar rai pobl er mwyn cyrraedd yr un canlyniadau.

Amrywiaeth: Sef cydnabod, parchu a dathlu gwahaniaethau ein gilydd.

Cynhwysiant: Sef creu amgylchfyd lle mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt, ac yn teimlo'n werthfawr, yn gallu cymryd rhan a bod yn hygyrch.

Nodweddion Gwarchodedig: Gweler isod y nodweddion gwarchodedig cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010:

  • Oedran
  • Anabledd
  • Ailbennu rhyw
  • Priodas a Phartneriaeth Sifil
  • Beichiogrwydd a Mamolaeth
  • Hil
  • Crefydd neu Gredoau
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd Rhywiol

Mae gwahaniaethu ar sail unrhyw un o'r nodweddion uchod yn anghyfreithlon. Gall gwahaniaethu ddigwydd mewn nifer o ffurfiau gwahanol gan gynnwys gwahaniaethu uniongyrchol, gwahaniaethu anuniongyrchol, bwlio, aflonyddu ac erledigaeth.

Adroddiad Monitro Blynyddol

Rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol bob blwyddyn sy'n dangos cynnydd ar draws ein holl waith cydraddoldeb.

Yn ogystal ag integreiddio'r SEP i'n Cynllun Corfforaethol yn 2020, rydym hefyd wedi integreiddio'r adroddiad blynyddol sy'n dangos cynnydd ar draws ein holl waith ar gydraddoldeb.  Mae hyn i'w weld ar dudalen y Cynllun Gwella Corfforaethol Adroddiadau perfformiad blynyddol.

Monitro Blynyddol CCS 2019-20

Monitro Blynyddol CCS 2018-19

Monitro Blynyddol CCS 2017-18

Monitro Blynyddol CCS 2016-17

CCS Adroddiad Monitro 2015-16

CCS Adroddiad Monitro 2014-15 (PDF) [809KB]

CCS Adroddiad Monitro 2013-14 (PDF) [1MB]

CCS Adroddiad Monitro 2012-13 (PDF) [313KB]

 

Cynlluniau Blaenorol

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019-2020 diweddariad (PDF) [1MB]

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2018-2020 diweddariad (PDF) [1MB]

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2017-2020 diweddariad (PDF) [1MB]

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020 (PDF) [950KB]

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020 - Asesiad Effaith (PDF) [754KB]

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 12-16 (PDF) [9MB]

 

Asesiad Effaith

Yn 2016 gyda dyfodiad y Ddeddf Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol fe wnaethon ni integreiddio'r gofynion o ran asesiadau effaith a chreu pecyn offer ymarferol. Mae'r pecyn offer wedi ymgorffori'r  gofynion deddfwriaethol canlynol: 

  • Cyddraddoldebau,
  • Gweledigaeth a Blaenoriaethau Strategol y Cyngor,
  • y Gymraeg,
  • Cenedlaethau'r Dyfodol a Datblygu Cynaliadwy,
  • Rheoli Risg, Diogelu ac
  • egwyddorion a chanllawiau craidd eraill.  

Bydd y pecyn offer yma'n hwyluso gwell penderfyniadau, ar sail tystiolaeth, sy'n ystyriol o'r oblygiadau ehangach i'r gwasanaeth, y cyngor a chymunedau ym Mhowys. Bydd yn dangos bod y cyngor wedi rhoi'r sylw dyledus i'r gofynion corfforaethol, deddfwriaethol  a rheoleiddio sydd arno.  

 

 

Adroddiadau gorfodol bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Cynllun Gweithredu ynghylch Tâl Rhywedd 2019-20 (PDF) [113KB]

2018

2017

 

Os oes gennych gwyn am unrhyw fater cydraddoldeb (cefndir ethnig, hil, rhyw, oed, anabledd, crefydd/credoau, tueddiadau rhywiol neu iaith), defnyddiwch ein ffurflen Gwyno ond rhowch wybod i ni fod yn gwyn yn ymwneud â mater cydraddoldeb.