Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor/Trethi Busnes​​​​​​​ ar gau ddydd Mercher 20 Mawrth

Tyfu Canolbarth Cymru

Growing Mid Wales logo

Partneriaeth ranbarthol a threfniant ymgysylltu yw Tyfu Canolbarth Cymru, rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus, a gyda Llywodraeth Cymru. Mae'r fenter yn ceisio cynrychioli buddiannau'r rhanbarth a lobïo o blaid ein blaenoriaethau ar gyfer gwella'r economi lleol.

Mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn dymuno dwyn ynghyd busnesau lleol, arweinwyr academaidd a llywodraeth leol i greu gweledigaeth ar gyfer twf Canolbarth Cymru yn y dyfodol, a hyrwyddo a dylanwadu ar ei hehangiad.

Ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector preifat yng Nghanolbarth Cymru, rydym yn cydnabod yr angen i ddatblygu consensws ar y blaenoriaethau ar gyfer ein rhanbarth, ynghyd â rhannu ein gweledigaeth i wneud cynnydd gyda swyddi, twf a'r economi lleol. Mae angen effeithiau cryfach a gwell canlyniadau trwy weithio gyda'n gilydd ar draws y rhanbarth, gydag adnoddau cyhoeddus sy'n crebachu.

Bydd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn darparu arweinyddiaeth ranbarthol ar gyfer ein gweledigaeth, a bydd yn fecanwaith 'ysgafn' effeithiol a fydd yn craffu, yn herio, yn dod o hyd i gyfleoedd a gwendidau ac felly'n cychwyn ac yn cynnig ymyriadau a fydd yn cyflawni gwell canlyniadau a rhagor ohonynt ar gyfer ein rhanbarth.

Ein nod yw

  1. Annog rhyngweithio gyda busnesau, addysg bellach ac uwch, a gyda budd-ddeiliaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat
  2. Adnabod themâu a sectorau allweddol, a blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi.
  3. Cefnogi arloesedd, menter a buddsoddiad sy'n cael ei arwain gan fusnesau yng Nghanolbarth Cymru.
  4. Sicrhau gwaith cydweithredol a thrawswffurfiol ehangach gyda sefydliadau sy'n bartneriaid allweddol a'r gymuned fusnes 
  5. Cytuno ar swyddogaethau, cyfrifoldebau a gwell trefniadau cyflwyno wrth hyrwyddo datblygiad economaidd. 
  6. Sicrhau mewnbwn ac ymgysylltu eang a fydd yn helpu i gynghori ar y Fargen Twf

 

Ydych chi wedi edrych ar wefan newydd Tyfu Canolbarth Cymru eto? Dewch o hyd iddo yma http://tyfucanolbarth.cymru/

 

dilynwch ni ar Twitter @GrowingMidWales