Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth yn union yw CCS?

Mae'r CCS yn swyddogaeth statudol a gynigir gan yr awdurdod lleol i sicrhau fod cynigion draenio ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy nac 1 tŷ neu lle bod yr arwynebedd adeiladu yn 100m2 wedi eu dylunio a'u hadeiladu yn unol â'r safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.

Sefydlwyd yr CCS i:

  • Gwerthuso a chymeradwyo ceisiadau draenio ar gyfer datblygiadau newydd lle mae goblygiadau draenio i'r gwaith adeiladau, a
  • Mabwysiadu a chynnal systemau draenio dŵr wyneb cynaliadwy yn unol ag Adran 17 Atodlen 3 (DRhLlD).
  • Mae hefyd gan y CCS bwerau arolygu a gorfodi
  • Ac mae'n defnyddio pwerau disgresiwn i gynnig cyngor cyn ymgeisio anstatudol

Beth mae'n ei olygu ar gyfer fy natblygiad?

Os ydych yn ddatblygwr, yn asiant neu'n unigolyn sy'n ceisio caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad, os yw'r datblygiad yn cynnwys mwy nac 1 tŷ neu arwynebedd adeiladu o 100m2 neu ragor mae hefyd rhaid i chi geisio cymeradwyaeth CCS ynghyd â chymeradwyaeth gynllunio. Ni fydd hawl gennych i ddechrau adeiladu nes rhoddir y 2 ganiatâd.

Ni fydd yn ofynnol i safleoedd a datblygiadau presennol sydd wedi sicrhau caniatâd cynllunio neu yr ystyrir eu bod wedi derbyn caniatâd (boed yn ddarostyngedig i amodau fel mater a gadwyd yn ôl) neu y derbyniwyd cais dilys ar ei gyfer ond nad yw wedi ei bennu erbyn 7 Ionawr 2019, wneud cais am gymeradwyaeth CCS.

Serch hynny, bydd yn dal angen cymeradwyaeth CCS os rhoddwyd y caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i amod o ran mater a gadwyd yn ôl ac nad yw'r cais i gymeradwyo'r mater a gadwyd yn ôl wedi ei wneud cyn 7 Ionawr 2010.

Mae yna rai eithriadau:

  • Mae gwaith adeiladu nad oes angen caniatâd cynllunio wedi ei eithrio o'r gofyniad am gymeradwyaeth CCS, nid yw'r eithriad yn berthnasol lle mae'r gwaith adeiladu ag arwynebedd o 100 m2 neu ragor.
  • Boed angen caniatâd cynllunio ai peidio, eithriwyd gwaith adeiladu sy'n cynnwys adeiladu un annedd, neu fath arall o adeilad, sydd ag arwynebedd o lai na 100m2, o'r gofyniad i sicrhau cymeradwyaeth.