Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwybodaeth am Fenter Genedlaethol Atal Twyll

O dan y gyfraith, mae gofyn i Gyngor Sir Powys ddiogelu'r arian cyhoeddus mae'n eu gweinyddu ac fe allai rannu'r wybodaeth a roddir iddo gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a datgelu twyll.  

Mae cyfateb data'n cynnwys cymharu cofnodion cyfrifiadurol y mae un corf yn eu cadw â chofnodion cyfrifiadurol eraill sy'n cael eu cadw gan gorff arall, neu'r un corff, i weld i ba raddau maent yn cyfateb â'i gilydd - gwybodaeth bersonol yw hon yn bennaf. Os gwelir bod rhai'n cyfateb â'i gilydd, fe allai olygu bod anghysonder, ond ni ellir rhagdybio a oes twyll, camgymeriad neu esboniad arall nes cynnal archwiliad.
 
Mae gofyn i ni o dan y gyfraith i gymryd rhan mewn Menter Genedlaethol i Atal Twyll, a darparu rhai setiau penodol o ddata i Archwiliwr Cyffredinol Cymru ar gyfer pob ymarfer o dan ei rymoedd yn Rhan 3 Deddf Archwiliadau Cyhoeddus (Cymru) 2004. Nid oes angen caniatâd yr unigolion dan sylw o dan y Rheoliadau Cyffredinol  ar Ddiogelu Data GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018. 

Darllen rhagor am y Fenter Twyll Genedlaethol