Toglo gwelededd dewislen symudol

Cysylltu â'r Arglwydd Raglaw

Crewyd swydd yr Arglwydd Raglaw yn wreiddiol gan Harri VIII, pan oedd deilydd y swydd yn atebol i'r Goron ar gyfer cynnal cyfraith a threfn a chadw rheolaeth ar y milisia lleol ac unrhyw waith amddiffyn arall. Yn 1871, tynnwyd y cyfrifoldeb dros y milisia oddi wrth yr Arglwydd Raglaw.

Roedd gan Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn eu Rhaglawiaethau eu hunain tan i'r rhain gael eu huno yn dilyn creu Sir Powys yn 1974.

 

Penodi a dyletswyddau

Y Frenhines sy'n penodi Arglwydd Raglaw, ar gyngor y Prif Weinidog, i fod yn gynrychiolydd personol ar ei rhan ym mhob sir. Yr Arglwydd Raglaw, felly, yw'r ffigwr cyfansoddiadol uchaf ym mhob sir, ac wrth weithredu o fewn y swydd swyddogol honno, mae gan yr Arglwydd Raglaw flaenoriaeth dros bawb arall. (Pan fydd gwraig yn dal y swydd, "Arglwydd Raglaw" fydd y teitl yr un fath.)

Y prif ddyletswyddau yng Nghymru, yn ymarferol, yw:

  • Trefnu ymweliadau gan y Teulu Brenhinol a'u hebrwng fel sy'n addas. Dylid cyfeirio pob cais am ymweliad o'r fath at yr Arglwydd Raglaw yn y lle cyntaf.
  • Cyflwyno Gwobrwyon a Medalau ar ran Ei Mawrhydi, a dilysu a chyflwyno enwebiadau ar gyfer Gwobrau o'r fath, fel sy'n briodol, mewn cysylltiad â'r Swyddfa Gymreig a'r Cynulliad Cenedlaethol.
  • Arwain yr Ynadaeth leol fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ynadon Heddwch (a'u penodi) mewn cysylltiad ag Adran yr Arglwydd Ganghellor, a dyletswyddau "Ceidwad y Rhôl" (Custos Rotulorum).
  • Cysylltu â chefnogi unedau rheolaidd a thiriogaethol lleol y Lluoedd Arfog yn y Sir. (Mae gan yr Arglwydd Raglaw hefyd reng Uwchfrigadydd neu reng gyfatebol y Gwasanaethau yn y sir wrth ymgymryd â dyletswyddau o'r fath.)
  • Annog amrywiaeth o weithgareddau gwasanaethau dinesig a gwirfoddol yn y sir, a dilysu a chefnogi prosiectau lleol a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.
  • Argymell enwau ar gyfer gwahoddiadau i ddigwyddiadau Brenhinol megis partion gardd blynyddol Ei Mawrhydi ym Mhalas Buckingham neu leoedd eraill, ac ar ymweliadau brenhinol.
  • Mae'r Arglwydd Raglaw yn penodi Dirprwy Arglwydd Raglaw o blith y Dirprwy Raglawiaid. Mae nifer y Dirprwy Raglawiaid yn dibennu ar faint y boblogaeth a pha mor addas ydynt i gynorthwyo'r Arglwydd Raglaw yn y gwaith uchod, am uchafswm o 10 mlynedd.

Cysylltiadau

Yr Arglwydd Raglaw Presennol:

  • Enw: Mrs Tia Catherine Jones,
  • Cyfeiriad: Fferm Pwlliwrch, Darowen, Machynlleth, SY20 8NS.

Clerc i'r is-gapteiniaeth (y dylid cyfeirio ymholiadau ato/ati)

Cysylltwch â Chlerc yr Arglwydd Raglaw os hoffech gael gwybodaeth am y Dirprwy Raglawiaid cyfredol

Rhowch sylwadau am dudalen yma