Sut i gymryd rhan (Tref-y-Clawdd)
O 'r safle yma, mae modd lawrlwytho copi o'r Gorchymyn Drafft, cynlluniau perthnasol a datganiad o resymau'r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn neu gellir ei weld am ddim yn ystod oriau swyddfa o 25 Hydref 2018 hyd 6 Tachwedd 2018, yn y mannau canlynol:
Gall UNRHYW UNIGOLYN wrthwynebu gwneud y Gorchymyn hwn drwy anfon rhybudd at y sawl y mae ei enw wedi lofnodi isod dim hwyrach na 6 Tachwedd 2018, gan nodi sail y gwrthwynebiad.
Sylwch: Os ydych ym dymuno gwrthwynebu neu wneud neu gefnogi sylwadau, bydd tîm y proisect yn ystyried eich gohebiaeth ac mae'n bosibl y bydd angen i ni ymgynghori â phobl a sefydliadau y tu allan i'r Cyngor Sir. Fel rhan o'r brosed so ymgynghori ag eraill, mae'n bosib y byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth iddynt, gan gynnwys y wybodaeth y gwnaethoch chi ei rhoi i ni, a'ch data personol. Ni fyddwn yn datgelu eich manylion personol, fodd bynnag, oni bai fod angen gwneud hynny er mwyn ein galluogi i drin y materion rydych chi wedi dwyn ein sylw atyn nhw.
Rheolwr Systemau Traffig a Diogelwch
Adran Traffig
Neuadd y Sir
Llandrindod
Powys
LD1 5LG