Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sut i gymryd rhan - parcio oddi ar y stryd

Mae modd lawrlwytho copi o'r Gorchymyn drafft, a datganiad o resymau'r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn, o'r tab Cynnig ar y dudalen yma, neu ei archwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa o 18 Mawrth 2016 hyd 15 Ebrill 2016 yn:

• Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod,  Powys, LD1 5LG.

Gall UNRHYW UNIGOLYN (dim hwyrach na 25 Mawrth 2016) wrthwynebu gwneud y Gorchymyn trwy anfon llythyr at y Rheolwr Traffig a Theithio, gan nodi sail y gwrthwynebiad.

Sylwch: Pe byddech am wneud gwrthwynebiad, neu wneud neu gefnogi sylwadau, bydd tîm y prosiect yn ystyried eich gohebiaeth ac mae'n bosibl y bydd angen i ni ymgynghori â phobl a sefydliadau y tu allan i'r Cyngor Sir. Fel rhan o'r broses o ymgynghori ag eraill, fe allem anfon y wybodaeth atyn nhw, gan gynnwys y wybodaeth rydych chi wedi ei rhoi i ni, a'ch data personol. Fodd bynnag, ni fyddem yn datgelu eich manylion personol oni bai ei fod yn angenrheidiol gwneud hynny i'n galluogi ni i ymdrin â materion y gwnaethoch chi eu dwyn i'n sylw.

 

Rheolwr Traffig a Theithio
Neuadd Sir Powys
Llandrindod 
Powys
LD1 5LG