Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth mae cynghorwyr yn ei wneud?

Mae Cynghorwyr yn cynrychioli pobl Powys ac yn atebol yn ddemocrataidd i drigolion eu wardiau. Eu dyletswydd pennaf yw gwasanaethu cymuned Powys yn ei chyfanrwydd, ond mae gan bob un ohonyn nhw ddyletswydd arbennig i'w hetholaeth, gan gynnwys y rhai hynny na wnaeth bleidleisio drostyn nhw.

Gallwch gysylltu â'ch cynghorydd i gael cymorth os oes ydych am drafod problem leol gydag ef/gyda hi, neu os ydych yn anfodlon ag un o wasanaethau'r cyngor.

Bydd cynghorwyr yn gweithio gyda'i gilydd i lunio penderfyniadau sy'n effeithio ar bawb sy'n byw neu'n gweithio ym Mhowys, neu'n ymweld â'r Sir. Mae ganddynt gyfrifoldeb cyffredinol am y gwaith y mae'r cyngor yn ei wneud - am ei bolisïau a pha more dda y mae'n perfformio. Mae hon yn rôl bwysig - mae cynghorydd yn cynnig llais i'w gymuned ac mae'n chwarae rhan bwysig yn y dasg o sicrhau democratiaeth.

Dylai cynghorydd gynrychioli'r gymuned gyfan, ond mae ganddo/ganddi gyfrifoldeb arbennig i geisio dwyn sylw pobl at anghenion y bobl sy'n byw yn ei ward ef/hi. Mae'n ddyletswydd ar y Cynghorydd i wybod beth sy'n digwydd yn ei ardal, a helpu gydag unrhyw broblemau neu gwestiynau gan etholwyr.  Er enghraifft, mae'n bosibl y gallai hyn olygu helpu gyda phroblem cartrefu, neu drefnu i gael arwydd ffordd newydd.

Mae cynghorwyr yn arweinyddion cymunedol, ac yn gweithio gyda nifer o gyrff lleol, e.e. byrddau iechyd, awdurdodau'r heddlu ac ysgolion. Mae hyn yn eu helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth a gwybodaeth am y sefydliadau sy'n gwasanaethu eu cymunedau.

Yn anad dim, dylai cynghorwyr wrando ar anghenion y bobl leol, a rhoi ystyriaeth i'w barn hwy wrth lunio penderfyniadau.

Fel rheol, mae Cynghorwyr Sir yn gwasanaethu am bum mlynedd, oni bai eu bod wedi cael eu hethol mewn isetholiad, a bryd hynny maen nhw'n gwasanaethu tan yr etholiadau cyngor a drefnwyd nesaf. Wrth gwrs, maen nhw'n gallu ymddiswyddo o'r swydd cyn bod eu cyfnod yn dod i ben.

Dinesydd Prydeinig, neu ddinesydd gwlad arall o'r Gymanwlad, dinesydd Gweriniaeth Iwerddon neu aelod o dalaith o'r Undeb Ewropeaidd neu ddinesydd tramor cymwys.

A fydd cynghorwyr yn cael eu talu?

Bydd pob cynghorydd yn derbyn lwfans sylfaenol, fesul rhandal misol. Mae'r lwfans yn gydnabyddiaeth am yr amser y bydd yn ei dreulio ar ei waith, gan gynnwys ffonio pobl a mynychu cyfarfodydd, ac yn cyfrannu at gostau fel defnyddio'i gartref a'i ffôn. Gall Cynghorwyr hefyd hawlio costau teithio ac mewn rhai amgylchiadau, gall hawlio cynhaliaeth am fynychu achlysuron a gymeradwywyd.

Os yw cynghorydd yn gwneud rhai dyletswyddau penodol, bydd hefyd yn derbyn lwfans am gyfrifoldeb arbennig. 

I gael rhagor o wybodaeth am lwfansau cynghorwyr, ewch i Lwfansau a Threuliau Aelodau

Alla' i gysylltu â'm cynghorydd gartref neu ar benwythnos?

Gallwch. Pan fydd rhywun yn dod yn Gynghorydd, bydd hynny'n digwydd ar y dealltwriaeth ei fod/ei bod ar gael i'r cyhoedd trwy'r wythnos, a bod modd cysylltu ag ef neu hi gartref, yn ogystal ag yn swyddfeydd y Cyngor.

Pa safonau moesol ddylwn i ddisgwyl gan fy nghynghorydd?

Pan fydd Cynghorydd yn cael ei ethol, bydd yn cytuno i gadw at god ymddygiad. (Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i'r Cyfansoddiad. Edrychwch ar "Adran 18 - Cod Ymddygiad Aelodau" yn fersiwn diweddaraf y Cyfansoddiad).  Mae'r cod yn disgrifio'r safonau uchel y dylai gyrraedd wrth iddo/iddi weithio fel cynghorydd. 

Sut fydd y cadeirydd yn cael ei ethol?

Bydd Cadeirydd y cyngor yn cael ei ethol yng Nghyfarfod  Blynyddol y Cyngor sy'n cael ei gynnal fis Mai. Bydd y Cadeirydd yn gwasanaethu am flwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth, neu i gysylltu â'r cadeirydd presennol, cysylltwch â Chynorthwyydd Personol/Ysgrifenyddes y Cadeirydd, gan ddefnyddio'r manylion cysylltu sydd ar y dudalen yma.

Faint o waith fydd cynghorwyr yn ei wneud?

Bydd angen i bob cynghorydd benderfynu faint o amser y mae'n fodlon ei neilltuo i'r gwaith. Bydd pa mor brysur ydyw'n dibynnu ar ei rôl yn y Cyngor a'r dyletswyddau y mae wedi ymrwymo i'w cyflawni.  Mae angen i Gynghorwyr dreulio amser yn trin ymholiadau gan eu hetholwyr, ac mae'n nhw'n debygol o dderbyn llawer o lythyrau, e-byst, galwadau ffôn ac ymweliadau personol. Bydd etholwyr yn cysylltu â'u cynghorwyr ar bob awr o'r dydd - ac nid ar adeg resymol bob  tro!

Mae disgwyl i gynghorydd fynychu cyfarfodydd ffurfiol y Cyngor a'r pwyllgorau y mae'n aelod ohonynt.  Ambell wythnos bydd mwy o gyfarfodydd wedi'u trefnu nag ar wythnosau eraill. Os ydych yn gadeirydd etholedig neu'n aelod o'r cabinet, gall y rôl fod yn un sy'n galw am lawer o'ch amser gan fod y cyfrifoldebau'n drymach. Bydd llawer o gynghorwyr hefyd yn cynrychioli'r cyngor ar sefydliadau allanol a mewn cynadleddau, a bydd rhaid iddyn nhw deithio i'r cyfarfodydd hyn.

Yn achos y rhan fwyaf o gyfarfodydd, bydd rhaid i'r cynghorwyr ddarllen papurau manwl a gwybodaeth gefndirol o flaen llaw. Gwahoddir y Cynghorwyr hefyd i fynychu nifer o seminarau a sesiynau hyfforddi.

Pa gymorth gaiff y cynghorwyr?

Mae swyddogion y Cyngor yn cael eu cyflogi i roi ar waith y penderfyniadau hynny y mae'r cynghorwyr yn eu gwneud, ac i helpu'r cynghorwyr trwy gynnig cyngor a chyfarwyddyd ar unrhyw broblem. Fel arfer, at yr uwch swyddogion, e.e. y prif weithredwr, y cyfarwyddwyr a'r penaethiaid gwasanaeth y bydd y cynghorwyr yn mynd am gymorth yn y lle cyntaf.

Mae'r uned gwasanaethau i aelodau yn cynnig cymorth gweinyddol ac yn gweithredu fel cyswllt rhwng cynghorwyr, swyddogion ac aelodau o'r cyhoedd.

Mae cynghorwyr hefyd yn gallu defnyddio ardal waith yn swyddfeydd y Cyngor gyda chyfleusterau fel cyfrifiaduron, argraffwyr, ffonau a phapur swyddfa.

Sut ydw i'n dod yn gynghorydd?

I allu sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad llywodraeth leol yng Nghymru, rhaid i chi:

  • fod yn o leiaf 18 mlwydd oed
  • bod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad, yn ddinesydd mewn unrhyw aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd neu wladolyn tramor cymwys a
  • diwallu o leiaf un o'r pedwar amod cymhwyso canlynol:

a)      Rydych, ac fe fyddwch yn parhau i fod, yn gofrestredig fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal awdurdod lleol yr ydych yn dymuno sefyll ynddi o ddiwrnod eich enwebiad ymlaen.

b)      Rydych wedi parhau i feddiannu unrhyw dir neu eiddo arall fel perchennog neu denant yn ardal yr awdurdod lleol yn ystod y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebiad a diwrnod yr etholiad.

c)       Mae eich prif neu unig fan gwaith yn ystod y 12 mis cyn dyddiad eich enwebiad a diwrnod yr etholiad wedi bod yn yr ardal awdurdod lleol.

Rydych wedi byw yn yr ardal awdurdod lleol yn ystod y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich enwebiad a diwrnod yr etholiad.

Heblaw am ddiwallu'r amodau cymhwyso i sefyll ar gyfer etholiad, rhaid i chi beidio â bod wedi cael eich datgymhwyso.

Mae rhai pobl wedi cael eu datgymhwyso rhag bod yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru.

  • Rydych wedi'ch cyflogi gan yr awdurdod lleol neu'n dal swydd gyflogedig dan yr awdurdod (gan gynnwys byrddau neu bwyllgorau ar y cyd). Noder y byddwch yn cael eich 'cyflogi gan yr awdurdod lleol' os, er enghraifft, eich bod yn gweithio mewn ysgolion penodol, gwasanaethau tân, yr heddlu neu wasanaethau iechyd. Nid yw'r rhestr yn drwyadl.
  • Rydych yn dal swydd a gyfyngir yn wleidyddol.

Mae rhai pobl sydd wedi cael eu datgymhwyso rhag cael eu hethol neu fod yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru. Ni allwch fod yn ymgeisydd ar unrhyw adeg yn eich enwebiad ac ar ddiwrnod pleidleisio os:

  • Rydych yn destun cyfyngiadau gorchymyn methdalwr neu orchymyn dros dro
  • Bod gennych euogfarn yn ystod y cyfnod o bum mlynedd yn dod i ben ar ddiwrnod yr etholiad neu ers cael eich ethol eich bod wedi cael eich euogfarnu yn y DU o drosedd, rydych wedi cael eich dedfrydu i dymor o garchar am dri mis neu fwy (gan gynnwys dedfryd a ohiriwyd), heb y dewis o ddirwy a'r cyfnod cyffredinol a ganiateir i wneud apêl neu gais mewn perthynas ag euogfarn sydd wedi pasio
  • Rydych wedi cael ei datgymhwyso dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (sy'n trafod arferion etholiadol llwgr neu anghyfreithlon). Mae'r datgymhwyso ar gyfer arfer anghyfreithlon yn dechrau o'r dyddiad mae unigolyn wedi cael ei ganfod yn euog gan lys etholiadol ac yn parhau am dair blynedd. Mae datgymhwyso am arfer llwgr yn dechrau o'r dyddiad mae unigolyn wedi cael ei ganfod yn euog gan lys etholiadol neu wedi cael ei euogfarnu a bod yr euogfarn yn parhau am bum mlynedd 
  • Rydych yn destun gofynion hysbysu o fewn neu o dan Ran 2 Deddf Troseddau Rhywiol 2003 a bod y cyfnod cyffredin a ganiateir i wneud apêl neu gais mewn perthynas â'r gorchymyn neu hysbysiad wedi pasio

Rwyf yn gyflogedig gan Gyngor Sir Powys, a allaf sefyll ar gyfer etholiad?

Rydych wedi'ch datgymhwyso rhag bod yn aelod o awdurdod lleol os ydych yn swyddog neu weithiwr cyflogedig i'r awdurdod lleol hwnnw. Nid ydych wedi'ch datgymhwyso, fodd bynnag, rhag sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad i awdurdod lleol.

Dyma fyddai'r achos lle mae eich penodiad:

  • wedi cael ei wneud
  • yn gallu cael ei wneud
  • wedi cael ei gadarnhau gan yr awdurdod lleol ei hunan
  • wedi cael ei gadarnhau gan unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor yr awdurdod lleol
  • wedi cael ei gadarnhau gan unrhyw gyd bwyllgor neu awdurdod Parc Cenedlaethol lle mae'r awdurdod lleol yn cael ei gynrychioli gan unigolyn sy'n dal swydd neu gyflogaeth o'r fath

Fodd bynnag, nid yw datgymhwysiad ar sail bod yn swyddog neu weithiwr cyflogedig yn gymwys i swydd cadeirydd, is-gadeirydd, aelod llywyddu neu ddirprwy aelod llywyddu'r awdurdod lleol. Bydd rhai awdurdodau yn cael trefniadau gweithredol ar waith sy'n cynnwys arweinydd a phwyllgor cabinet gweithredol. Yn yr achosion hyn, ni fydd datgymhwysiad yn berthnasol i swydd arweinydd gweithredol, aelod o'r pwyllgor gweithredol na chynorthwyydd i'r swyddog gweithredol.

Mae pwyllgorau ac is-bwyllgorau gan awdurdodau lleol fel arfer. Mae swyddogion cyflogedig awdurdodau lleol a gyflogir dan

gyfarwyddyd pwyllgorau neu is-bwyllgorau o'r fath yn cael eu datgymhwyso rhag sefyll i'r awdurdod hwnnw. Yn ychwanegol at hynny, lle mae aelod, neu aelodau, gan bwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath, a benodir ar enwebiad awdurdod lleol arall, bydd y datgymhwysiad hefyd yn berthnasol i gael eu hethol i awdurdod lleol arall hefyd.

Os ydych yn swyddog cyflogedig i awdurdod lleol a gyflogir dan gyfarwyddyd bwrdd ar y cyd, awdurdod Parc Cenedlaethol neu bwyllgor ar y cyd, fe fyddwch yn cael eich datgymhwyso rhag cael eich ethol fel aelod o'r holl awdurdodau a gynrychiolir ar y corff hwnnw.

Gall byrddau a phwyllgorau ar y cyd ac ati gynnwys amrywiol sefydliadau, megis gwasanaethau tân ac awdurdodau addysg. Fel rheol gyffredinol felly, os ydych yn gweithio yn y sector cyhoeddus lleol, dylech ofyn am gyngor oddi wrth adran Adnoddau Dynol eich cyflogwr i'ch helpu i sefydlu a fyddai datgymhwysiad yn berthnasol i chi. Weithiau gall perthnasoedd cyflogi fod yn gymhleth ac os mai dyma yw'r achos, rydym yn argymhell eich bod yn chwilio am gyngor cyfreithiol eich hunan.

Athrawon

Os y cewch eich ethol, nid yw datgymhwysiad rhag gweithio ar gyfer awdurdod lleol yn berthnasol ar unrhyw adeg cyn i chi wneud datganiad o dderbyn swydd. Rhaid i chi fod wedi ymddiswyddo o'ch swydd cyn derbyn dyletswydd.

Gellir dod o hyd i gyfarwyddyd llawn i ymgeiswyr a phobl sy'n bwriadu sefyll fel ymgeisydd ar wefan y Comisiwn Etholiadol:

https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/ymgeisydd-neu-asiant/ymgeiswyr-ac-asiantau-mewn-etholiadau-lleol-yng-nghymru

Cael eich enwebu yn swyddogol

Boed os ydych wedi cael eich dewis gan blaid neu eich bod yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol, rhaid i chi sicrhau eich bod yn cael ei enwebu'n swyddogol fel y bydd dyddiad yr etholiad yn agosáu.

I ofyn am becyn enwebu, cysylltwch â Gwasanaethau Etholiadol dros e-bost neu ffôn. Dylid llenwi a dychwelyd papurau enwebu at Wasanaethau Etholiadol yn bersonol neu dros e-bost. Mae manylion llawn wedi'u cynnwys o fewn y pecyn enwebu. Ni fydd papurau enwebu a dderbynnir wedi'r dyddiad cau (a adwaenir hefyd fel diwedd enwebiadau) yn cael eu derbyn.

Mae cyfarwyddyd i ymgeiswyr, gan gynnwys gwybodaeth o ran cymhwyster i sefyll ar gyfer etholiad, ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol yma:

Gellir canfod yr amserlen etholiadol ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru ar wefan y Comisiwn Etholiadol yma:https://www.electoralcommission.org.uk/cy/media/8682

Rhaid i chi roi eich caniatâd yn ysgrifenedig i'ch enwebiad. Rhaid cyflwyno'r holl ddogfennau angenrheidiol 19 diwrnod gwaith cyn dyddiad yr etholiad. Am wybodaeth fanylach, edrychwch ar y https://www.disabilitywales.org/projects/access-to-elected-office-fund-wales/?lang=cy

Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i chi os ydych yn anabl ac yn ystyried sefyll am swydd etholedig.https://www.disabilitywales.org/projects/access-to-elected-office-fund-wales/?lang=cy

A yw pob cynghorydd yn aelod o blaid wleidyddol?

Nac ydyw. Mae nifer o Gynghorwyr yn sefyll fel rhai annibynnol, er ar hyn o bryd, mae pob cynghorydd ond un yn perthyn i un o'r pedwar grwp gwleidyddol a ddatganwyd ym Mhowys.