Pam fod Llywodraethu Corfforaethol yn bwysig?
Mae rhedeg y cyngor yn effeithiol yn golygu ein bod yn well am wneud y penderfyniadau cywir, ac yn well am wella gwasanaethau.
I wneud yn siwr ein bod yn gweithio'n effeithiol, mae angen:
- Cyfathrebu clir ar draws y sefydliad fel bod pawb yn deall trefniadaeth y gwahanol swyddogaethau a chyfrifoldebau a'r llinellau atebolrwydd
- Systemau cadarn ar gyfer perfformiad, materion ariannol, risg a rheoli gwybodaeth;
- Safonau ymddygiad uchel.
Trwy ofalu am ein llywodraethu corfforaethol, gallwn wneud yn siwr ein bod yn gallu darparu gwasanaethau o safon uchel a pharhau i'w gwella. Gallwn hefyd fonitro ein holl systemau i osgoi problemau difrifol.
Rydym hefyd yn sylweddoli bod sicrhau ein bod yn agored, yn onest ac yn atebol yn golygu y bydd y cyhoedd yn ymddiried ynom ac yn awyddus i weithio gyda ni.