Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sut y bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud?

Y canlynol sy'n gwneud y penderfyniadau:

 

  • Y Cyngor

Dan y ddeddf, mae'n rhaid i rai penderfyniadau gael eu gwneud gan y Cyngor llawn (e.e. gosod Treth y Cyngor). Y Cyngor sydd hefyd â'r prif gyfrifoldeb dros sicrhau bod y Bwrdd yn atebol am ei benderfyniadau. Mae 73 o  Aelodau'r Cyngor.

 

  • Y Cabinet

Y Cabinet sy'n gwneud y rhan fwyaf o'r penderfyniadau, gan ddilyn y fframweithiau ar gyfer y gyllideb a pholisïau.  Mae 10 Aelod o'r Cabinet, pob un â chyfrifoldeb portffolio am ran benodol o swyddogaethau'r Cyngor.

 

  • Pwyllgorau Cynllunio, Trwyddedu ac Eraill

Bydd rhai pwyllgorau sirol, er enghraifft y Pwyllgorau Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy, yn llunio penderfyniadau. Ceir hefyd y Pwyllgor Archwilio a'r Pwyllgor Cyflogaeth ac Apeliadau.  Mae cofnodion cyfarfodydd y pwyllgorau hyn i'w gweld ar dudalen Cyfarfodydd y Cyngor

 

  • Swyddogion

Swyddogion yw'r staff uwch sy'n cynghori'r Cyngor. Maen nhw'n gyfrifol am reoli'r Cyngor o ddydd i ddydd. Mae'r Cyngor yn dirprwyo rhai pwerau llunio penderfyniadau i Swyddogion, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu rheoli eu rhan hwy o'r drefniadaeth yn effeithiol. Mae manylion y pwerau sy'n cael eu dirprwyo i'r Swyddogion gan y Cyngor, y Cabinet a'r Pwyllgorau i'w gweld yn y cyfansoddiad.