Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth yw'r fframwaith rheoli perfformiad?

Mae a wnelo Rheoli Perfformiad â gwneud yn siwr bod y staff wedi'u rheoli'n dda ac yn cael cefnogaeth i allu gwneud eu swyddi hyd eithaf eu gallu. Trwy wneud hyn gallwn gyflwyno'r gwasanaethau gorau posibl a gwneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus. 

Mae rheoli perfformiad yn dda yn ein helpu ni i: 

  • Gyrraedd ein nod a chynorthwyo'r gymuned
  • Sicrhau bod y pethau sydd angen eu gwneud yn cael eu gwneud, a bod digon o adnoddau i wneud hynny
  • Darparu gwerth gorau am arian
  • Cymell a rheoli ein staff
  • Darparu gwasanaethau o ansawdd da i'n defnyddwyr
  • Parhau i wella yn yr hyn a wnawn.