Toglo gwelededd dewislen symudol

Pa wybodaeth alla' i dderbyn?

Gweld y Dogfennau

Gallwch weld copïau o agendâu ac adroddiadau ym mhencadlys y Cyngor o leiaf 5 diwrnod cyfan cyn cyfarfod. Maent hefyd ar gael ar dudalen  dyddiadur y cyfarfodydd a'r pwyllgorau. page.



Deddf Rhyddid Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn rhoi hawl gyfreithiol gyffredinol i unigolion a sefydliadau weld y wybodaeth sydd gan y Cyngor.

Mae disgwyl i ni ddatgelu gwybodaeth os oes rhywun yn gofyn amdani, oni bai fod datgeliad yn cael ei wahardd yn benodol trwy esemptiad. Mae yna ambell esemptiad diamod sy'n ei gwneud hi'n anghyfreithlon datgelu'r wybodaeth. Fodd bynnag, mae amod 'Prawf Lles y Cyhoedd' ar y rhan fwyaf o esemptiadau, sy'n golygu bod yn rhaid i ni benderfynu a fyddai'n fuddiol i'r cyhoedd ai peidio pe byddem yn datgelu'r wybodaeth.

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth a'r Rheoliad Gwybodaeth Amgylcheddol yn diffinio'r math o wybodaeth sydd wedi'i hesemptio; mae gwybodaeth sy'n cynnwys data personol pobl eraill a gwybodaeth a fyddai'n atal y sefydliad rhag gwneud ei waith yn iawn yn enghreifftiau o'r math yma o wybodaeth.  Mae Deddf Diogelu Gwybodaeth 1998 (DPA) yn parhau i drin mynediad at wybodaeth bersonol.

Cyflwynodd Gorchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) 2007 7 categori gwybodaeth na ddylem ni ganiatáu iddi gael ei chyhoeddi. Mae'r categorïau hyn yn cynnwys:

  • Gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn penodol.
  • Gwybodaeth sy'n ymwneud â materion cyfreithiol.


Ein Gwefan

Rydym yn cyhoeddi amrywiaeth eang o wybodaeth ar ein gwefan. Os nad ydym yn cyhoeddi'r wybodaeth yn uniongyrchol, gallwn ddweud wrthych fel arfer ble i ddod hyd i'r wybodaeth neu i wneud cais amdani. Gweld crynodeb o sut y byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth., ac eithrio'r rhai pan fyddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei thrafod.



Mynychu'r Cyfarfodydd

Mae gan aelodau o'r cyhoedd a'r Wasg yr hawl i fynychu pob un o  gyfarfodydd y Cyngor, except when confidential information would be discussed.